nol ir arciffGweithdy Gwneud Bagiau Defnydd - Prifysgol Bangor

Project Cadwraeth Eryri
Dydd Sadwrn Chwefror 2010
Dewch draw i’r gweithdy AM DDIM hwn i ddysgu sut i droi hen ddefnyddiau yn fagiau neges hynod o ddefnyddiol.
Mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Cymdeithas Eryri’n parhau â’u mentr ‘Hen Garpiau ar gyfer Gwell Byd
-----------------------------
GWEITHDY GWNEUD BAGIAU DEFNYDD - Prifysgol Bangor
Dydd Sadwrn 6 o Chwefror 2010 - 10am hyd 4pm
Lleoliad: Ystafelloedd 5 & 6, Adeilad 44, Neuadd Wheldon, Bryn Glanrafon, Prifysgol Bangor,Bangor.
Dewch draw i’r gweithdy AM DDIM hwn i ddysgu sut i droi hen ddefnyddiau yn fagiau neges hynod o ddefnyddiol. ‘Does dim angen profiad.
Mae Gwirfoddolwyr Cadwraeth Cymdeithas Eryri’n parhau â’u mentr ‘Hen Garpiau ar gyfer Gwell Byd’ er mwyn ceisio lleihau’r defnydd o fagiau plastig, a faint o ddefnydd a deflir gennym yma ym Mhrydain, efo grwp 'People and Planets'
Os oes gennych beiriant gwnïo neu hen ddefnyddiau fel llenni, dillad gwely a ffabrig creu clustogau nad ydych eu hangen cofiwch ddod â nhw draw. Os ydych yn gallu gwnïo dewch draw i’n helpu os gwelwch yn dda. Hoffem ledaenu’r gair ynglŷn â pha mor hawdd yw hi i newid hen bethau yn bethau wedi eu hailgylchu defnyddiol sy’n rhad, yn hawdd cael gafael arnyn nhw, ac sy’n garedig i’r amgylchedd.
Dewch draw i roi cynnig arni hi, dewch ag unrhyw un gyda chi a fyddai’n hoffi helpu, a beth am weld a allwn ni roi hyn ar waith.
DARPERIR CINIO
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bea yn y Tŷ Hyll ar 01690 720287 neu 07979 595019 ar y dydd, neu drwy e-bostio (gwirfoddoli@cymdeithas-eryri.org.uk)








