nol ir arciffBagiau o bosibliadau

Bagiau o bosibliadau

Jane Davidson AC Gweinidog Amgylchedd Cymru yw’r ddiweddaraf i gael bag siopa wedi’i ailgylchu gan Gymdeithas Eryri. Yr oedd yn fwy o lawer na’r cannoedd o fagiau a wnaethpwyd hyd yn hyn! Cyflwynodd Bea Kelsall (Cyd-gysylltydd y Prosiect, ar y dde) ac Alun Pugh (Cyfarwyddwr y Gymdeithas) y bag enfawr i’r Gweinidog yng Nghyfarfod Blynyddol 2009 y Gymdeithas.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Prosiect Cadwraeth Eryri Cymdeithas Eryri wedi bod yn gwahodd cymunedau lleol i fynychu ein gweithdai gwneud bagiau ffabrig a hynny’n rhad ac am ddim. Hyd yn hyn, mae’r Gymdeithas wedi cynnal unarddeg o weithdai llwyddiannus a thair arddangosfa; yn ystod Ffair Gynaliadwyaeth Ecobro, Arwerthiant Blanhigion Blynyddol Cymdeithas Eryri  ac i gangen leol Merched y Wawr. Bu’r Gymdeithas hefyd yn arddangos ei gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala yn Awst 2009. Mae cymunedau bellach yn gofyn i’r Gymdeithas gynnal digwyddiadau gwneud bagiau yn eu trefi a’u pentrefi, fel arfer ar ôl cymryd rhan mewn gweithdy blaenorol neu ar ôl cael bag wedi’i wneud yn un o’n gweithdai.

Un o nodau’r fenter yw dangos i gyfranogwyr pa mor hawdd yw ailddefnyddio deunyddiau megis hen lenni neu ddillad gwely, a fyddai fel arall wedi’u taflu i’r domen sbwriel. Trwy annog pobl i wneud bag yn ystod un o’r gweithdai â chymorth patrwm syml, hyderwn y bydd pobl yn defnyddio eu sgiliau newydd er mwyn ailgylchu eitemau eraill, a fydd, yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, yn eu cynorthwyo i fabwysiadu ffordd o fyw sy’n fwy cynaliadwy.

Mae’r fenter hefyd yn ceisio annog llai o ddefnydd o fagiau plastig trwy gynnig dewis arall. Hyderwn y bydd codi ymwybyddiaeth o’r problemau sy’n ymwneud â dibyniaeth ar blastig yn annog mwy o bobl i wneud dewisiadau mwy cynaliadwy wrth brynu. Yn sgil newid sylfaenol o’r fath yn arferion y cwsmer, caiff busnesau eu hannog i fynd i’r afael â’r gorddefnydd anghynaladwy o becynnu.

Un arall o fanteision y fenter, sydd wedi’i noddi gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru  a Chronfa Arbrofol Eryri, yw'r anogaeth i gymunedau i gadw sgiliau sydd mewn perygl o gael eu colli, megis gweu a gwnïo. Hyderwn y bydd cychwyn â chamau syml fel y rhain yn grymuso cymunedau i weithio tuag at ddyfodol sy’n fwy cynaliadwy, ac efallai bod yn rhan o fentrau megis mudiad y Trefi Trawsnewid.