Twristiaeth Werdd

Mae’r diwydiant twristiaeth yn chwarae rhan allweddol wrth lunio’r amgylchedd a’r dirwedd unigryw ac wrth gynnal yr economi lleol a chymunedau Eryri.    Gyda phoblogaeth o 26,000 yn y Parc Cenedlaethol, mae’r diwydiant twristiaeth yn cynnig yr hyn sy’n cyfateb i 9,000 o swyddi llawn amser, gwerth tua £385m i’r economi lleol. Mae twristiaeth yn dylanwadu ar unrhyw leoliad, yn enwedig y rhai sydd ag amgylchedd bregus neu sensitif. Trwy ymroi i ddulliau cyfrifol, gall busnesau twristiaeth, eu gwesteion a’r holl ymwelwyr i’r ardal ostwng effaith twristiaeth ac efallai hyd yn oed gyfrannu  at gadwraeth yr ardal.

Gyda nawdd o gronfa datblygiad cynaliadwy CAE, wedi’i weinyddu gan APCE a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, mae Prosiect Eryri Werdd y Gymdeithas yn ceisio codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo arferion cynaliadwy yn y diwydiant twristiaeth yn ardal Eryri.

Trwy hyrwyddo a gwobrwyo arfer dda mae’r prosiect yn dangos nad yw gweithredu’n gynaliadwy yn cyfyngu safon profiad yr ymwelwyr neu elw busnesau twristiaeth. Yn wir mae gan dwristiaeth gynaliadwy'r potensial i gynyddu’r ddau!

Ymwelwch â gwefan y prosiect, eryri-gwyrdd.co.uk, i ddarganfod mwy.  Caiff y safle ei ddiweddaru’n rheolaidd gyda gwybodaeth o’n ymchwil ni, yn ogystal â chyngor/syniadau/ymchwil gan fusnesau o Eryri sydd eisoes yn arwain y ffordd tuag at dwristiaeth gynaliadwy.