Gwobr Ffermio a Thirlun
Mae Cymdeithas Eryri'n trefnu Gwobr Ffermio a Thirlun er mwyn rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol i ffermwyr sy wedi gwneud gwaith cadwraeth pwysig, er mwyn cryfhau cysylltiadau rhwng y Gymdeithas a'r byd ffermio, ac er mwyn dangos bod ffermio masnachol a chadwraeth yn gallu mynd law yn llaw. Cynhelir y gystadleuaeth nesaf yn haf 2011.
Mae sawl ffermwr yn gwneud ei orau i reoli ei fferm er lles yr amgylchedd drwy ymgymryd â gwaith sydd o fudd amgylcheddol, megis cynnal waliau cerrig ac adeiladau traddodiadol, neu waith i hybu bio-amrywiaeth.
Dymuna Cymdeithas Eryri roi cydnabyddiaeth i'r ymdrech hon trwy gynnig gwobrau i'r ffermwyr hynny o fewn Parc Cenedlaethol Eryri sydd wedi gwneud y mwyaf i wella'r tirlwedd ac i hybu bywyd gwyllt.








