Cynhadledd Dyfodol yr Ucheldir - Gwanwyn 2009

Cynhalwyd Cynhadledd 2009 y Gymdeithas ar 27ain a'r 28ain o Fawrth. Y thema oedd Dyfodol Yr Ucheldiroedd.

Ar y dydd Gwener cafodd y cynhadleddwyr ddewis o dripiau i'r maes. Cafodd un grwp (gweler y llun) y cyfle i weld sut mae adnewyddiad y corsdir uwchben y Bala yn gwella ansawdd dwr yfed, cloi carbon yn ei le a gwneud cyfraniad gwerthfawr i atal llifoedd ar ol glaw mawr. Tan yn ddiweddar, roedd y darn o flaen y cynrychiolwyr yn goedwig o goed Sitka ac eglurodd Jared Wilson sut y bu i'r trawsnewidiad ddigwydd.

Ar y dydd Sadwrn, cyfarfu'r cynrychiolwyr mewn lle ychydig mwy clud, canolfan Tan Y Bwlch, i wrando ar gyfraniadau arbenigol academia, fforestwyr, amaethwyr a diddordebau hamdden.