Ymunwch â ni

Mae Cymdeithas Eryri yn gweithio i sicrhau bod harddwch ac amrywiaeth tirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parc Cenedlaethol yn parhau fel y gall cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol eu mwynhau.

Trwy ymuno â miloedd o aelodau eraill byddwch yn cynnig cefnogaeth allweddol i waith Cymdeithas Eryri, gan sicrhau fod y lle hudolus hwn yn parhau'r un mor brydferth ag erioed.

Mae aelodaeth yn caniatáu gostyngiad i chi yn nifer i siopau ac atyniadau Eryri (er enghraifft gostyngiad o 20% yn Cotswold Outdoors yn Betws y Coed), 2 gylchgrawn lliw y flwyddyn, adroddiad blynyddol, sticer car, mynediad i ystod eang o ddigwyddiadau a llawer iawn mwy! Yn bwysicach, byddwch yn gwneud cyfraniad ymarferol tuag at gadw Eryri yn le arbennig iawn. Dim ond £20 y flwyddyn yw aelodaeth unigol, tra bod aelodaeth ar y cyd yn yr un cyfeiriad yn £30. Ymunwch YN AWR trwy Paypal neu gydag unrhyw gerdyn credyd. Mae’r elusen hefyd yn croesawu cyfraniadau i’n cynorthwyo gyda’r gwaith o amddiffyn a harddu Eryri. Gyda mwy o aelodau bydd gennym fwy o lais a byddwn yn gallu cyflawni mwy o waith!

Rydym yn cynnal rhaglen gyson o dasgau cadwraethol drwy gydol y flwyddyn sy'n cynorthwyo i gadw prydferthwch naturiol Eryri. O dan arweiniad Cydlynydd Gwirfollolwyr y Gymdeithas, mae grwpiau'n cyfarfod ar hyd a lled y Parc gan wneud amrywiaeth o weithgareddau. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o hyn,a gwneud gwahaniaeth - cerwch yma

Mae nifer o ysgolion  a chymdeithasau awyr agored a lleol hefyd yn aelodau o’r gymdeithas. Gallwn ddarparu siaradwyr ar gyfer grwpiau o’r fath a chymorth gyda phrosiectau ysgol. Cysylltwch â ni am wybodaeth ynglŷn ag ymaelodi.

Mae gennym gynllun aelodaeth gorfforaethol hefyd ar gyfer busnesau mawr a bach,  Cysylltwch ag Alun Pugh, Cyfarwyddwr y Gymdeithas ar 01690 720287 am fwy o fanylion neu e-bostiwch ni.

 

Single Membership
 
Please select

Joint Membership  
Please select
Membership for under 25  
Please select
Please enter your date of birth

Donations
(with GiftAid for UK Taxpayers only)

 
Donations
(for Non UK Taxpayers)