Cyfarfodydd a Darlithoedd Cyhoeddus

Mae’r Gymdeithas yn cynnal rhaglen reolaidd o gyfarfodydd a darlithoedd. Caiff rhai eu cyflwyno gan enwogion cenedlaethol.

Gweler ein tudalen Teithiau Cerdded ar gyfer rhestr llawn diweddar o'n cyfarfodydd a digwyddiadau eraill.

Un o uchafbwyntiau dathliadau penblwydd y Gymdeithas yn 40 oed oedd darlith gyhoeddus gan Cameron McNeish (de), cyflwynydd adnabyddus y rhaglen deledu Wilderness Walks a golygydd cylchgrawn The Great Outdoors. Yr oedd hwn yn gyflwyniad gwych, gyda Cameron yn dadlau’n angerddol dros amddiffyn tiroedd gwyllt Prydain, wedi’i ddarlunio gyda delweddau gwych a cherddoriaeth atgofus.

Mae'r darlithoedd yn agored i bawb, ond mae aelodau'r Gymdeithas yn cael mynediad am bris gostyngedig (neu am ddim).  Beth am ymaelodi â'r Gymdeithas, neu gysylltwch a ni i danysgrifio i'n e-gylchlythyron i gadw'n gyfoes a digwyddiadau'r Gymdeithas?