Cyfarfodydd a Darlithoedd Cyhoeddus

Mae’r Gymdeithas yn cynnal rhaglen reolaidd o gyfarfodydd a darlithoedd. Caiff rhai eu cyflwyno gan enwogion cenedlaethol.

Un o uchafbwyntiau dathliadau penblwydd y Gymdeithas yn 40 oed oedd darlith gyhoeddus gan Cameron McNeish, cyflwynydd adnabyddus y rhaglen deledu ‘Wilderness Walks’ a golygydd cylchgrawn The Great Outdoors. Yr oedd hwn yn gyflwyniad gwych, gyda Cameron yn dadlau’n angerddol dros amddiffyn tiroedd gwyllt Prydain, wedi’i ddarlunio gyda delweddau gwych a cherddoriaeth atgofus.

Mae aelodau yn derbyn gwybodaeth am ddigwyddiadau sydd i ddod trwy'r post – rheswm arall i ymuno â’r Gymdeithas!