Cerdded

Mae’r Gymdeithas yn cynnal rhaglen reolaidd o deithiau cerdded trwy gydol y flwyddyn, gyda theithiau addas ar gyfer pob diddordeb a gallu.

Mae teithiau cerdded fferm bob amser yn boblogaidd. Trefnwyd taith gerdded o amgylch fferm fynydd leol yn ddiweddar. Arweiniwyd y daith gan ŵr a gwraig sy’n rhedeg y busnes, a dysgodd aelodau’r Gymdeithas fwy am yr her a’r pleser o redeg fferm yng nghalon Eryri.

Yr ydym hefyd yn trefnu ymweliadau â mynyddoedd uchaf Eryri trwy gydol y flwyddyn. Os ydych yn hoffi’r syniad o gerdded i gopa’r Wyddfa ddydd San Steffan, neu am weld Mehefin yn gwawrio ar y Carneddau yna dewch i’w brofi gyda phobl o’r un anian trwy ymuno â’r Gymdeithas.

Mae'n bwysig iawn i gadw heini. Hoffwn ddiolch Cyngor Chwaraeon Cymru am gefnogi ein rhaglen.