Darganfod Eryri!
Mae ein gwirfoddolwyr wedi datblygu map darluniadol o Eryri. Fe’i cyhoeddwyd gyda chymorth ariannol Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Mae copïau ar gael yn rhad ac am ddim o Ganolfannau Croeso (tra bydd digon ar ôl) ac o Tŷ Hyll. Rydym yn cynnwys copi yn ein pecyn aelodaeth newydd. Mae’r map yn cynnwys eitemau byr ar ddiwylliant, bywyd gwyllt a chefndir hanesyddol Eryri.
Byddem yn falch o bostio copi i unrhyw un os derbyniwn amlen a stamp. Byddwn yn anfon copi fel cydnabyddiaeth am unrhyw rodd o £2 neu fwy a gyfrannwyd gyda cherdyn credyd drwy gyfrwng y wefan hon.
Mae'r map ar gael hefyd yma.








