Y Môr
Nodwedd arbennig o Eryri yw ei bod mor agos i'r môr, sydd heddiw'n fan chwarae i bobl lleol ac i dwristiaid, ac a fu'n gynhaliaeth i ddiwydiannau traddodiadol pysgota.
Y mae pobl lleol yn croesawu'r arian. Wrth i'r twristiaid ddod at y môr, daw arian i law'r bobl lleol, ond ar draul anrheithio'r tirwedd. Nid yw arfordir carafanau Meirionnydd mewn cytgord gweledol â'r môr a'r mynyddoedd oddi amgylch. Y mae angen gwaith i bobl lleol; y mae'r gwrthdaro rhwng gwaith a'r amgylchedd yn her dragwyddol.








