Cyflwyniad i'r Gymdeithas gan David Lewis, Cadeirydd

BETH YW EICH PERTHYNAS CHI AG ERYRI?

Ydych chi’n cerdded/dringo/beicio/gyrru trwy Eryri?

Ydych chi’n byw a gweithio yma?

Ydych chi’n byw yn ddigon agos i ymweld yn rheolaidd?

Ydych chi’n treulio’ch gwyliau yn Eryri?

A ydych yn rhan o neu’n dibynnu ar brif ddiwydiant Eryri, twristiaeth?

Ydych chi’n ffermio neu reoli’r tir?

Ydych chi’n gwerthfawrogi’r ardal fel cadarnle’r Iaith Gymraeg a’i diwylliant?

Beth bynnag yw eich perthynas chi ag Eryri, mae Cymdeithas Eryri yn cynnwys nifer o bobl fel chi  - mae angen eich cefnogaeth chi hefyd!

Cymdeithas Eryri ar Vimeo
Paul Higginson - Resolution Video on Vimeo
www.resolutionvideo.co.uk

PAM POENI?

Mae Eryri yn cynnig pleser a mwynhad i chi.

Efallai y bydd pleser a mwynhad pobl eraill yn cynnig bywoliaeth i chi.

Fel fi, yr ydych yn ymfalchïo yn harddwch tirweddau Eryri. Efallai ei fywyd gwyllt, neu’r llynnoedd a’r afonydd.
Mae sawl bygythiad - yn cynnwys datblygiadau anaddas ac ymwthiol, niferoedd gormodol o ymwelwyr mewn rhai mannau, esgeulustod mewn mannau eraill, newidiadau yn y llystyfiant ac arferion ffermio, a dirywiad cymunedau lleol.


Yn wyneb y bygythiadau hynny, yr wyf eisiau sicrhau y gall fy wyrion fwynhau Eryri cymaint ag yr wyf i yn ei fwynhau yn awr. Beth amdanoch chi?

BETH YDYM YN EI WNEUD

Mae gan y Gymdeithas hon weledigaeth glir ar gyfer dyfodol Eryri.

Yr ydym yn ymgyrchu i amddiffyn Eryri rhag amrywiaeth o fygythiadau.

Yr ydym yn gweithio’n galed ac yn llwyddiannus i ddylanwadu a herio Awdurdod Parc Cenedlaethol a chyrff cyhoeddus eraill.

Mae ein criw o wirfoddolwyr yn ymgymryd â gwaith cadwraeth ymarferol ar draws y Parc Cenedlaethol.

Yr ydym yn cynorthwyo pobl i fod yn fwy ymwybodol o dreftadaeth a rhinweddau arbennig Eryri.

Yr ydym yn gweithio â chymunedau lleol i’w bywiogi a’u gwneud yn fwy cynaliadwy

- Dyma ychydig o’r pethau yr ydym yn eu gwneud!  I weld mwy, edrychwch ar ein gwefan

SUT ALLWCH CHI GYNORTHWYO?

Er mwyn parhau i wneud y pethau hyn yr ydym angen eich cefnogaeth a’ch mewnbwn

fel aelod

trwy gyfrannu – neu gymynrodd yn eich ewyllys

fel gwirfoddolwr

trwy anfon eich safbwyntiau i ni