Coedydd

Gweddillion olaf y coedydd hynafol a orchuddiai Eryri gynt yw'r coedydd naturiol sydd heddiw yn y dyffrynoedd ac ar lawr gwlad.
O ddiffyg eu hadnewyddu, y mae llawer o'r coedydd hyn a fu'n cynnal amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwerthfawr, mewn perygl o ddarfod. Y mae'r awdurdodau lleol yn gwneud gwaith da i hybu adfywio ac ymestyn y coedydd llydanddail presennol.

Nodwedd fodern yw planhigfeydd o goedwigaeth yn Eryri, wedi eu plannu o fewn y ganrif ddiwethaf heb fawr o ystyriaeth i'w heffaith niweidiol ar y tirlun. Y mae llinellau unionsyth ffiniau'r coedwig-oedd a phlannu blociau o goed o un rhywogaeth wedi cyflwyno dimensiwn newydd a dieithr i dirlun a oedd gynt yn amrywiol a gwasgaredig wedi ei lunio o elfennau a geid yn naturiol gerllaw.

Erbyn hyn y mae llawer o waith ar droed i wneud iawn am y niwed i'r tirwedd a wnaed gan blanhigfeydd coedwigaeth. Wrth i'r planhigfeydd hyn ddod i'w hoed, ychwanegant eu hatyniad unigryw eu hunain gan dyfu'n goed urddasol aeddfed sy'n cynnal amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid.