Mae Prosiect Cadwraeth Eryri angen eich cymorth chi !
Rydym yn gweithio i sicrhau fod harddwch ac amrywiaeth tirwedd, bywyd gwyllt a diwylliant Eryri yn parhau ar gyfer mwynhad cenedlaethau’r dyfodol
Rydym yn trefnu dyddiau gweithio rheolaidd ar gyfer gwirfoddolwyr i wella a chynnal harddwch naturiol Parc Cenedlaethol Eryri ar gyfer ymwelwyr a thrigolion lleol
Rydym yn rhedeg gwaith cadwraeth ymarferol a byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno gyda ni
Chi sy’n elwa o Eryri wedi’r cwbl
Dewch i helpu a sicrhau goroesiad mewn cyfnod o newidiadau
Pam gwirfolloli?
Anturio yn Eryri
Cafarfod ffrindiau newydd
Cadw'n heini ac yn weithgar
Hyfforddi!
Ennill profiad gwerthfawr
Ymdeimlad o gyflawniad
Chwarae rhan weithgar yn amddiffyn Eryri
Gwybodaeth Gyffredinol
Bydd gwirfoddolwyr angen:
Dillad gwaithcynnes, dillad sy'n dal dwr, Mae'n hanfodol cael esgidiau cryfion (megis esgidiau cerdded neu wellingtons a blaen dur iddynt). Nid yw esgidiau rhedeg neu esgidiau ysgafn eraill yn dderbyniol.
Darparwn:
Offer, menig, hyfforddiant,yswiriant, Bocs Cymorth Cyntaf
Gellir talu costau i / ac o'r safleodd gweithio ar raddfa o 25c y filltir hyd at uchafswn o £15.
Cwblheir asesiadau risg cyflawn cyn pob gweithgaredd, ac fe geir cynorthwy-ydd Cymorth Cyntaf yn bresennol bob amser.
Mae rhaid i bob yn sydd o dan ddeunaw oed fod yn nghwmni oedolyn cyfrifol.
Am ragor o fanylion cysylltwch gyda Bea Kelsall, Swyddog Prosiect Cadwraeth Eryri. Ffon 01690 720287. E-bost gwirfoddoli@cymdeithas-eryri.org.uk
Cymdeithas Eryri, Ty Hyll, Capel Curig, Conwy, LL24 0DS








