Dyddiadur - Diwrnodiau cadwraeth ymarferol

Dyddiau gwaith newydd ar gyfer mis Medi 2010:


Dydd Sadwrn, Medi’r 4ydd 2010 – Clirio’r Pwll ym Mhlas Tan y Bwlch


Byddwn yn ôl yng nghwmni Chris Marshall, Prif Arddwr Plas Tan y Bwlch, i glirio ac adfer y pwll fel rhan o’n cynllun gwaith presennol. Cyfarfod a chroeso fel arfer...
Cyfarfod am 10 yb ym mhrif faes parcio’r Parc Cenedlaethol sydd wrth ymyl y ffordd. Cod map SH655408, gerllaw’r A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog.
Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, LL41 3YU.  Ffôn: 01766 772600
Dewch â: dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau glaw neu esgidiau caled (rhai â blaen dur fyddai orau), pecyn bwyd a diod gynnes. Bydd offer a menig ar gael.


Dim ffasiwn beth â phas am ddim? – Casglu Sbwriel ar Yr Wyddfa


Ar Fedi’r 7fed, 2010, bydd gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn mynd AM DDIM ar y trên i gopa’r Wyddfa i gasglu sbwriel ar hyd y llwybrau.  

"Yn anffodus, mae pob sedd ar y tren wedi'i lenwi erbyn hyn (25/08/10).  Mae croeso i chi ymuno a'r rhain sy'n cerdded i fyny i gyfarfod ar frig Yr Wyddfa am 9yb!" 

Mae arnom ni eisiau dysgu’r ymwelwyr bod sbwriel yn broblem ar y mynyddoedd ac annog cerddwyr i barchu’r tir o’u cwmpas. Rydym yn mwynhau ymweld â’r llefydd hyn am eu bod yn wyllt ac yn hardd ac fe ddylen ni sicrhau eu bod yn aros felly! Nid yn unig y mae sbwriel yn anharddu’r tirlun ond mae papurau melysion a photeli a bagiau plastig yn llygru’r pridd ac yn beryg i fywyd gwyllt. Mae hyd yn oed croen bananas ac orennau yn cymryd blynyddoedd i bydru.
Ar y 7fed o Fedi 2010, bydd grŵp o wirfoddolwyr Cymdeithas Eryri, gyda chymorth Wardeniaid y Parc Cenedlaethol, yn mynd ar drên bach Yr Wyddfa (am ddim!) am 8yb i gasglu sbwriel o lecynnau mwyaf poblogaidd y mynydd.
Mae croeso i chi ddod gyda ni i lanhau’r Wyddfa a thynnu sylw at y broblem yma.

Os oes awydd arnoch chi i gymryd rhan, anfonwch e-bost at Bea Kelsall, cydlynydd gwirfoddoli (bea@snowdonia-society.org.uk) neu ffoniwch ein swyddfa ar 01690720287
Well i chi frysio – mae seddi ar y trên yn llenwi’n gyflym – ond os hoffech chi mi allwch chi gerdded a’n cyfarfod ni ar y copa!


Byddwn yn cyfarfod yng Ngorsaf Reilffordd Yr Wyddfa, Llanberis, am 7.40 yb. Dewch â haenau o ddillad cynnes, dillad glaw, esgidiau cerdded a phecyn bwyd gyda chi.


Dydd Sadwrn, Medi’r 11eg – GWNEUD BAGIAU / GWEITHDY Trowch o i Lawr!
10.00 - 4.00

Lle: Swyddfeydd Cymunedau’n Gyntaf, Yr Hen Co-op, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3AG.
Dewch draw i’n gweithdy nesaf i ddysgu sut mae troi hen ddefnyddiau yn eitemau gwych a defnyddiol. Mae’r gweithdy, a gaiff ei gynnal gyda Phrosiect Trefi Gwyrdd ym Mlaenau Ffestiniog, AM DDIM a does dim angen profiad blaenorol o wnio!

Byddwn yn defnyddio peiriannau llaw yn unig er mwyn cyfleu neges ‘Trowch o i Lawr’ sef lleihau’r defnydd o ynni. Yn ystod y dydd byddwn yn gwneud amryw o fagiau / sachau golchi gyda’r neges ‘30°’ i annog pobl i olchi dillad ar dymheredd is. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau tymheredd eich cartref o leiaf 1°. Byddwn hefyd yn gwneud ein bagiau gwreiddiol o garpiau i gyfoeth i annog pobl i beidio â defnyddio bagiau plastig. Felly dewch draw, a pheidiwch â phoeni os nad ydych chi’n rhy hoff o ddefnyddio peiriannau llaw mi gewch chi gyfle i wnio â’ch dwylo.
Dewch â: peiriannau gwnio â llaw, digon o ddeunyddiau a brwdfrydedd. Cais am fwy o ddefnydd: mae angen mwy o hen lenni a dillad gwely arnom ni, felly cysylltwch â ni fel bod modd eu ‘huwchraddio’ i ddefnyddio’r gair hud newydd. Dewch draw i roi cynnig arni a chofiwch ddod ag unrhyw un arall sydd â diddordeb efo chi ac mi gawn ni weld os allwn ni roi ‘uwchraddio’ ar waith. 

BYDD CINIO AR GAEL
Ffoniwch i gadw lle:
Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost at Bea Kelsall, cydlynydd gwirfoddoli, (bea@snowdonia-society.org.uk) neu ffoniwch ein swyddfa yn Nhŷ Hyll ar 01690720287

Dydd Mercher, Medi’r 29ain 2010 – Clirio eithin yn Foel Dduarth, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyffryn Aber


Byddwn yn gweithio gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i glirio’r eithin o lechweddau Foel Dduarth er mwyn gwneud llwybr diogel i hel y defaid i lawr o’r mynydd. Dydi’r eithin ddim yn uchel ond mae o’n drwch ar hyd y llechweddau. Unwaith y byddwn ni wedi tynnu’r eithin byddwn yn ei losgi – dowch a thatws i’w pobi os hoffech chi. Bydd hefyd yn gyfle i weld faint o effaith gawsom ni ar ein hymweliad diwethaf yn Nhachwedd 2008.
**Mae’n bwysig eich bod chi’n gwisgo llewys hir, menig cryf a dillad trwchus gan fod yr eithin yn bigog.
Cyfarfod: 10yb Llecyn tarmac ar droed Foel Dduarth –  ewch trwy giât.
Sut i fynd yno:  O gyfeiriad Bangor ewch oddi ar yr A55 yn Abergwyngregyn - cyffordd 13. Dilynwch y ffordd ymadael o dan yr A55 i’r pentref, ewch dros y groesffordd, a bydd warws bîn ar eich chwith. Dilynwch yr arwyddion am y Warchodfa Natur a Rhaeadr Aber. Pan fyddwch yn cyrraedd maes parcio SH663722 trowch i’r dde a chadwch ar y ffordd darmac tan ddewch chi at y llecyn o flaen y giât i’r mynydd. Byddwn yn cyfarfod yma. Os ydych chi’n teithio o gyfeiriad Conwy ewch oddi ar yr A55 ar y ffordd ymadael a bydd y warws bîn ar eich chwith. Trowch i’r chwith am y pentref a dilynwch yr arwyddion fel uchod.   
Dewch â:  Pecyn bwyd, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau caled. Bydd offer a menig ar gael.


Gwybodaeth o flaen llaw – mis Hydref:
Dyddiadau i’ch dyddiadur!


Dydd Llun, Hydref y 4ydd a dydd Mawrth, Hydref y 5ed 2010 – Clirio blynyddol Traeth Harlech – deuddydd i weld a oes modd i ni glirio popeth eleni.

Dydd Mercher, Hydref yr 20fed 2010 – Diwrnod gwaith prosiect Cymunedol Dolwyddelan

 

------------------------------------------

Prosiect Cadwraeth Eryri


Newyddion:

Peidiwch anghofio…Cyfleoedd i Wirfoddoli - Mehefin 2010 I ddod…


Dydd Sul, Mehefin 20, 2010 - Hen Eglwys Llangelynnin - torri rhedyn

Eleni, byddwn yn cyfarfod wrth yr eglwys hardd hon, sydd wedi ei hadeiladu mewn man godidog ac anghysbell, i dorri’r rhedyn sy’n tyfu o’i chwmpas. Byddwn yn dechrau ar y gwaith am 10yb. 
Cyfarfod: 10yb.  SH750738, B5106 o gyfeiriad Conwy, yn ardal Henryd trowch i’r chwith am  Garnedd-wen, mae arwyddion am yr eglwys o’r fan hyn ymlaen. Mae’r ffordd yn gul ac yn serth mewn mannau, felly cymrwch ofal.
Dewch â: cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Bydd offer a menig ar gael.


Dydd Mawrth, Mehefin 22ain, 2010 - Diwrnod Gwaith Cadwraeth: Prosiect Gwelliannau Cymunedol Dolwyddelan

Eto, eleni, byddwn yn gweithio gyda’r gwirfoddolwyr lleol ar gyfer Dolwyddelan yn ei flodau. Byddwn yn llunio maes parcio min y ffordd ym Mhont Arenig (ar yr A470 uwchben y pentref), ac efallai y gwnawn ni ragor o waith yng ngardd yr Orsaf Reilffordd. Byddwn yn gwneud ychydig o waith tirlunio ac yn phlannu planhigion a llwyni brodorol neu bwrpasol o amgylch y mannau eistedd ac o gwmpas cors benodedig.
Cyfarfod: 10yb. Maes Parcio min y ffordd ym Mhont Arenig. (ar yr A470 uwchben y pentref).  SH731524.
Dewch â: cinio, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion (bydd angen esgidiau cryfion gyda blaen metel i wneud gwaith ar y llwybrau) . Offer a menig ar gael.

 

Gweithdy wedi i ohirio ! Dydd Sadwrn, Mehefin 26ain, 2010 -  Tocio perllan gymunedol  Plas Tan y Bwlch

Gweithdy wedi i ohirio



Cyfleoedd i Wirfoddoli - Gorffennaf 2010


Dydd Mawrth, Gorffennaf 6ed 2010 - byddwn yn dechrau clirio ardal gorsiog ar gyfer plannu planhigion


Mae gan dîm garddio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch, raglen rheolaidd o ddigwyddiadau i gadw’r gerddi’n dwt. Byddant yn dod i’r digwyddiad hwn i gefnogi Cymdeithas Eryri.
Cyfarfod: 10yb ym mhrif faes parcio’r Parc Cenedlaethol oddi ar lôn y Plas.  SH655408, oddi ar yr A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog.
Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, LL41 3YU
Ffôn: 01766 772600
Dewch â: dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau glaw neu esgidiau cryfion (esgidiau cryfion gyda blaen metel fyddai orau). Offer a menig ar gael. os ydych yn dymuno cewch ddod â’ch bwyd eich hun.

Dydd Sadwrn Gorffennaf 10fed 2010 – Carnifal Tanygrisiau

Byddwn yn hyrwyddo’n prosiect Cadwraeth Wirfoddol a’r prosiect Cyfranogi Cymunedol yn y digwyddiad lleol hwn. Dewch draw i’n gweld, neu pe baech yn gallu rhoi rhywfaint o’ch amser i sgwrsio gyda’r cyhoedd a hyrwyddo Cymdeithas Eryri, byddem yn ddiolchgar iawn – cysylltwch â Bea.

Dydd Mawrth, Gorffennaf 13eg, 2010-  Clirio planhigyn Jac y neidiwr - Llyn Tegid

Ddiwrnod i docio cryn dipyn ar blanhigion Jac y Neidiwr sy’n bla ar lannau Llyn Tegid. Bydd Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn ein cynorthwyo ar y diwrnod.  Byddwn yn clirio’r planhigyn estron hwn o lannau’r llyn er mwyn ceisio atal rhagor o’r hadau rhag gwasgaru. Byddwn yn tynnu’r planhigion â llaw. Dyma’r cyfnod gorau i wneud hyn gan ei fod yn atal yr hadau rhag gwasgaru yn ogystal â lleihau’r angen am gemegion.
Cyfarfod: 10yb yn swyddfa Warden y Llyn yn Y Bala. Cyfeirnod: SH 355 922. Mae’r swyddfa ger yr A494 ar lannau’r llyn, ewch i gyfeiriad y de orllewin o dref Y Bala.
Dewch â: cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Bydd offer a menig ar gael.

Dydd Sadwrn Gorffennaf 17eg a Dydd Sul Gorffennaf 18fed – Ffair Haf Geltaidd, Betws y Coed

9:30 – 5:30 Stondinau Bwyd a Chrefftau … Mynediad £1

Bydd y ffair hon o ddydd Sadwrn Gorffennaf 17eg hyd at ddydd Mercher Gorffennaf 21ain. Bydd Cymdeithas Eryri yn arddangos ein menter ‘Tro Fo i Lawr’ dros y penwythnos yn unig  (oherwydd ein bod ni yn y Sioe Fawr am weddill yr wythnos - gweler isod.)


Mae angen gwirfoddolwyr arnom ni i’n helpu i osod a threfnu’r stondin ar ddydd Gwener Gorffennaf 16eg  ac i  gymryd gofal o’r stondin ar ddydd Sadwrn a Dydd Sul. Byddai unrhyw amser y gallech ei roi o fudd mawr i ni, boed awr neu’r holl benwythnos... cysylltwch â Bea  mor fuan â phosib!

Dydd Llyn 19eg i’r 22ain o Orffennaf 2010 - Sioe Frenhinol yn Llanelwedd, Builth Wells


Mae Prosiect Cadwraeth Eryri newydd gadarnhau gyda threfnwyr Cadwch Gymru’n Daclus ein bod ni am gael un o’r pedwar lle maen nhw’n eu cynnig ym mhabell Elusennau Amgylcheddol Cymru yn y  Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni, fydd yn rhedeg o’r 19eg i’r 22ain o Orffennaf. Mae’r babell yn 15m o hyd wrth 6m o led ac mi fyddwn ni’n cael chwarter y gofod hwnnw. ‘Rydym ni’n edrych ymlaen at y cyfle gwych hwn i ennill mwy o gyhoeddusrwydd i Gymdeithas Eryri.
 
‘Rydw i’n bwriadu cynnal gweithdai ‘Trowch o i Lawr’ ar hyd yr wythnos ac mi fydd angen cymaint ag sy’n bosibl o wirfoddolwyr - i helpu cynnal y gweithdai, recriwtio aelodau newydd, a thynnu sylw at ein gwaith drwy sgwrsio â’r cyhoedd.
Os oes gennych chi unrhyw syniadau eraill ar gyfer yr wythnos cysylltwch â ni. ‘Rydym ni’n gobeithio y bydd ein gweithgareddau cael lle yn Rhaglen yr Wythnos, fydd yn dod â mwy eto o sylw i’n gwaith.
Mi fydd hyn i gyd yn eithaf costus, ond  mi fydd yn werth ei wneud os gwnawn ni’r gorau o’n cyfle!


Dydd Sadwrn 24 Mis Gorffennaf 2010 - Glanhau tiroedd Eglwys y Santes Julitta, Capel Curig


Byddwn yn clirio’r tyfiant sydd o amgylch y beddi, yn torri drain ac yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw cyffredinol i sicrhau fod yr eglwys hardd hon yn edrych ar ei gorau ar gyfer ei hymwelwyr niferus.

Cyfarfod: 10 y bore ym mhrif faes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y tu ôl i siop a chaffi’r Pinnacles  yng Nghapel Curig ar yr A5, Cyfeirnod Grid SH721582. 

Dewch â: Phecyn bwyd, te neu goffi, dillad glaw a dillad cynnes. Rydyn ni’n argymell ichi wisgo un ai esgidiau cerdded cryf neu esgidiau glaw. (yn enwedig rhai â thrwynau dur). Fe gaiff offer a menig eu darparu.

 

Torri Ffosydd yn Nyffryn Mymbyr

Dydd Mercher Gorffennaf 28ain 2010- Torri Ffosydd yn Nyffryn Mymbyr
Cadwch lygad am ragor o fanylion yn nes at yr amser. Ein gobaith yw cydweithio gyda gwirfoddolwyr a Wardeiniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar hyn.

Dydd Mawrth Awst y 3ydd, 2010- Hen Eglwys Llangelynnin - torri rhedyn

Eleni byddwn yn cyfarfod wrth yr eglwys hardd hon, sydd wedi ei hadeiladu mewn man godidog ac anghysbell, i dorri’r rhedyn sy’n tyfu o’i chwmpas. Byddwn yn dechrau ar y gwaith am 10yb.
Cyfarfod: 10yb.  SH750738, B5106 o gyfeiriad Conwy, yn ardal Henryd trowch i’r chwith am  Garnedd-wen, mae arwyddion am yr eglwys o’r fan hyn ymlaen. Mae’r ffordd yn gul ac yn serth mewn mannau, felly cymrwch ofal.


Cadarnhau:

Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhoi gwybod i ni os ydych am fynychu unrhyw un o’r digwyddiadau uchod. Gallwch gysylltu â’r swyddfa ar 01690 720287 neu e-bostio Bea Kelsall (volunteer@snowdonia-society.org.uk)


Diolch i chi i gyd
Bea

Prosiect Cadwraeth Eryri

Newyddion: Eleni mae Prosiect Cadwraeth Eryri yn ehangu gyda Huw Townsley, y Cynorthwydd Prosiect newydd, yn ymuno â ni o ddydd Llun, Mai 24ain ymlaen. Bydd yn ein cynorthwyo gyda’r dyddiau gwaith Gwirfoddoli Cadwraeth. Bydd eich Swyddog Prosiect, Bea Kelsall, yn cynyddu ystod a chynnwys ein prosiect newydd Ymrwymiad Cymunedol – Byw yn Gynaliadwy. Tyfodd y prosiect yma allan o’n cynllun O Garpiau i Gyfoeth

Felly, dewch yn llu i gefnogi ein prosiectau niferus sydd ar y gweill yn ystod y misoedd nesaf. Dewch i ni gymryd weithredu ymarferol at y lefel nesaf!

Cyfleoedd i Wirfoddoli - Mehefin 2010


Dydd Mawrth, Mehefin 1af, 2010 - Clirio planhigyn Jac y neidiwr - Llyn Tegid

(a dydd Mawrth, Gorffennaf 13eg, 2010- ail ddiwrod clirio Jac y neidiwr)

Dau ddiwrnod i docio cryn dipyn ar blanhigion Jac y Neidiwr sy’n bla ar lannau Llyn Tegid. Bydd Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri yn ein cynorthwyo ar y diwrnod.  Byddwn yn clirio’r planhigyn estron hwn o lannau’r llyn er mwyn ceisio atal rhagor o’r hadau rhag gwasgaru. Byddwn yn tynnu’r planhigion â llaw. Dyma’r cyfnod gorau i wneud hyn gan ei fod yn atal yr hadau rhag gwasgaru yn ogystal â lleihau’r angen am gemegion.

Cyfarn fod: 10yb yswyddfa Warden y Llyn yn Y Bala. Cyfeirnod: SH 355 922. Mae’r swyddfa ger yr A494 ar lannau’r llyn, ewch i gyfeiriad y de orllewin o dref Y Bala.
Dewch â: cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Bydd offer a menig ar gael.

Dydd Iau, Mehefin 10fed, 2010 - Bore Coffi a Diwrnod Agored Gardd Bywyd Gwyllt yn Nhŷ Hyll

Mae angen gwirfoddolwyr arnom i’n cynorthwyo â sawl agwedd o’r diwrnod agored: stiwardio, lluniaeth, gwerthu planhigion a chroesawu ymwelwyr. Cysylltwch â Sarah Medcalf os medrwch ein cynorthwyo ar y diwrnod neu gyda’r paratoadau: info@snowdonia-society.org.uk  

Bydd Tŷ Hyll, y gerddi a’r coetir ar agor i aelodau Cymdeithas Eryri ac i’r cyhoedd ar ddydd Iau, Mehefin 10fed. Bydd Tŷ Hyll ar agor o 10 y bore hyd 4 y pnawn. Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim. Mae’r bore coffi yn gyfle i aelodau Cymdeithas Eryri gyfarfod y staff a’r ymddiriedolwyr i rannu a thrafod safbwyntiau a syniadau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn chwarae rhan fwy allweddol yng ngwaith y Gymdeithas, gallwch ddefnyddio’r cyfle hwn i holi a gweld sut fedrwch chi wneud hynny. Mae arnom ni eisiau cyfarfod ein haelodau ac eraill sy’n teimlo yr un mor angerddol am y parc, bywyd gwyllt a threftadaeth y lle, felly dewch yn llu!

Bwriad y diwrnod agored ydi, nid yn unig arddangos gwaith cynnal a chadw rhagorol ein gwirfoddolwyr yn y gerddi a’r coetir, ond annog mudiadau a phobl eraill yn Eryri i wneud eu rhan nhw i warchod a hyrwyddo’r toreth o fywyd gwyllt amrywiol sydd i’w weld yn y Parc Cenedlaethol. Bydd ein harbenigwyr garddio wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ac egluro sut mae’r tir o gwmpas Tŷ Hyll wedi ei gynnal a’i gadw.

 
Mae angen gwirfoddolwyr arnom i agor Tŷ Hyll dros y Sulgwyn

Mae hi’n annhebygol iawn y byddwn mewn sefyllfa i gyflogi staff i agor drysau Tŷ Hyll i ymwelwyr yn ystod hanner tymor Sulgwyn. Felly rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i wneud hynny yn lle. Byddwn yn ddiolchgar petai rhywun yn gallu agor y tŷ o ddydd Mawrth, Mehefin y 1af i ddydd Sul, Mehefin y 6ed. Os ydych ar gael i’n cynorthwyo, cysylltwch â Sarah Medcalf, e-bost  info@snowdonia-society.org.uk

Dydd Sadwrn, Mehefin 12fed, 2010 - Lansio Cynllun ‘Trowch o i lawr!’, Llanrwst  gweithdy 10 - 4

Byddwn yn lansio’r cynllun newydd hwn gyda diwrnod gwaith yn Neuadd yr Eglwys, Llanrwst. Nid oes gan Neuadd yr Eglwys ddigon o socedi trydan ar gyfer peiriannau gwnïo trydanol, felly byddwn yn defnyddio peiriannau gwnïo â llaw er mwyn pwysleisio ein neges’ o leihau ein defnydd o ynni ‘Trowch o i lawr!’. Yn ystod y dydd byddwn yn gwneud bagiau / sachau golchi dillad; gyda’r neges ‘30°’ arnynt i geisio annog pobl i olchi dillad ar y tymheredd yma. Byddwn yn gwneud rhwystrau drafft i annog pobl i droi’r gwres yn eu cartref o leiaf 1° yn is, ac wrth gwrs byddwn yn parhau i wneud ein bagiau o garpiau i gyfoeth gwreiddiol i annog pobl i beidio â chymryd bagiau plastig. Felly, dewch draw i roi help llaw. Ac os nad ydych yn hoffi’r syniad o ddefnyddio peiriant gwnïo â llawmae yna wastad gyfle i wnïo efo edau a nodwydd.

Cais am ddefnydd: Mae arnom ni angen mwy o hen lenni neu orchuddion gwely - os oes gennych rai dros ben. Cysylltwch â ni fel y byddwn yn gallu eu hailddefnyddio i wneud rhywbeth gwell neu eu ‘huwchraddio’ i ddefnyddio’r gair hud newydd.

Cyfarfod: Tŷ’r Eglwys, Stryd Watling, Llanrwst, Gwynedd LL26 0LS. (A548)

Cyfeiriadau: Dewch i Lanrwst ar yr A470.

 O’r gogledd/Conwy, dilynwch y ffordd i ganol Llanrwst, bydd tro llym i’r chwith (cornel siop hen greiriau), yna ewch yn syth yn eich blaenau i Heol Ddinbych A548. Trowch i’r dde gan ddilyn y ffordd unffordd i Stryd Watling. Dilynwch arwydd am y pwll nofio. Mae’r maes parcio yn un talu ac arddangos. Mae Tŷ’r Eglwys ar y dde gyferbyn â’r ysgol yn Stryd Watling.

O’r  de/Conwy, dilynwch y ffordd i ganol Llanrwst, heibio’r bont fawr ar y chwith. Ewch ymlaen heibio’r sgwâr ble fydd troad i’r dde i Heol Ddinbych A548. Trowch i’r dde gan ddilyn y ffordd unffordd i Stryd Watling. Dilynwch arwydd am y pwll nofio. Mae’r maes parcio yn un talu ac arddangos. Mae Tŷ’r Eglwys ar y dde gyferbyn â’r ysgol yn stryd Watling. (gellir hawlio tâl parcio yn ôl, ewch a’ch tocyn parcio i Bea ar y diwrnod)

Dewch ag: unrhyw beiriannau gwnïo â llaw gyda chi, defnyddiau a llawer o frwdfrydedd.

Cinio ar gael - gadewch i mi wybod os bydd arnoch eisiau cinio.

Dydd Sul, Mehefin 12fed, 2010 - Hen Eglwys Llangelynnin - torri rhedyn (dydd Mawrth Awst y 3ydd, 2010, ymweliad wedi ei drefnu i ail ymweld)

Eleni, byddwn yn cyfarfod wrth yr eglwys hardd hon, sydd wedi ei hadeiladu mewn man godidog ac anghysbell, i dorri’r rhedyn sy’n tyfu o’i chwmpas. Byddwn yn dechrau ar y gwaith am 10yb.

Cyfarfod: 10yb.  SH750738, B5106 o gyfeiriad Conwy, yn ardal Henryd trowch i’r chwith am  Garnedd-wen, mae arwyddion am yr eglwys o’r fan hyn ymlaen. Mae’r ffordd yn gul ac yn serth mewn mannau, felly cymrwch ofal.

Dewch â: cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Bydd offer a menig ar gael.

Dydd Mawrth, Mehefin 22ain, 2010 - Diwrnod Gwaith Cadwraeth: Prosiect Gwelliannau Cymunedol Dolwyddelan

Eto, eleni, byddwn yn gweithio gyda’r gwirfoddolwyr lleol ar gyfer Dolwyddelan yn ei flodau. Byddwn yn llunio maes parcio min y ffordd ym Mhont Arenig (ar yr A470 uwchben y pentref), ac efallai y gwnawn ni ragor o waith yng ngardd yr Orsaf Reilffordd. Byddwn yn gwneud ychydig o waith tirlunio ac yn phlannu planhigion a llwyni brodorol neu bwrpasol o amgylch y mannau eistedd ac o gwmpas cors benodedig.

Cyfarfod: 10yb. Maes Parcio min y ffordd ym Mhont Arenig. (ar yr A470 uwchben y pentref).  SH731524.

Dewch â: cinio, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion (bydd angen esgidiau cryfion gyda blaen metel i wneud gwaith ar y llwybrau) . Offer a menig ar gael.

Dydd Sadwrn, Mehefin 26ain, 2010 -  Tocio perllan gymunedol  Plas Tan y Bwlch

(hefyd - dydd Mawrth, Gorffennaf 6ed, byddwn yn dechrau clirio ardal gorsiog ar gyfer plannu planhigion)

Mae gan dîm garddio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch, raglen rheolaidd o ddigwyddiadau i gadw’r gerddi’n dwt. Byddant yn dod i’r digwyddiad hwn i gefnogi Cymdeithas Eryri. Bydd y diwrnod yn dechrau am  9.30yb ac yn gorffen am 3.30yp.

Cyfarfod: 9:30yb ym mhrif faes parcio’r Parc Cenedlaethol oddi ar lôn y Plas.  SH655408, oddi ar yr A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog.

Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, LL41 3YU

Ffôn: 01766 772600

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli am y diwrnod, dewch yno erbyn 9.30yb. Bydd cyflwyniad byr am Blas Tan y Bwlch, yr hyn yr ydym yn ei wneud yno ac amlinelliad bras o’r hyn fyddwn yn ei wneud yn ystod y dydd. Bydd y diwrnod gwaith yn gorffen am 3.30yp.

Dewch â: dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau glaw neu esgidiau cryfion (esgidiau cryfion gyda blaen metel fyddai orau). Offer a menig ar gael.

Bydd cinio ysgafn, cawl neu frechdanau ar gael yn rhad ac am ddim i wirfoddolwyr, ond os ydych yn dymuno cewch ddod â’ch bwyd eich hun.

Cadarnhau:

Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhoi gwybod i ni os ydych am fynychu unrhyw un o’r digwyddiadau uchod. Gallwch gysylltu â’r swyddfa ar 01690 720287 neu e-bostio Bea Kelsall (volunteer@snowdonia-society.org.uk)

Diolch i chi i gyd

Bea

Prosiect Cadwraeth Eryri 2010

Mis Mai 2010 Gweithdai gwirfoddolwyr :

Mi fydd mis Mai yn fis prysur dros ben gyda llwyth o bethau i’ch denu i’r tymor newydd o wirfoddoli.


Gwaithdy Plas Tan y Bwlch – Dydd Sadwrn 24 o Fis Ebrill 2010
Mae tîm garddio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch yn dechrau ar raglen o ddigwyddiadau cynnal a chadw yng ngerddi a thiroedd y Plas. Rydym ni, fel Cymdeithas Eryri, yn bwriadu mynd draw i'r digwyddiad yma i ddangos ein cefnogaeth drwy gynorthwyo.  Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30yb ac yn para tan 3.30 y prynhawn. Bydd yna ginio am ddim, rhywbeth yn debyg i gawl a brechdanau, i bawb sy'n gwirfoddoli i weithio yno, ond mae croeso i chi ddod â'ch pecyn bwyd eich hun.  
Cyfarfod: 9:30 y bore ym mhrif faes parcio Awdurdod y Parc ar ymyl ffordd y Plas. SH655408, ger yr A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog. Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, LL41 3YU Ffôn: 01766 772600
A fyddai pawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer y diwrnod mor garedig â dod yno erbyn 9.30yb. Bydd yna gyflwyniad byr ar y Plas a'r gwaith yr ydym yn ei wneud yno, ac yna amlinelliad byr o raglen y dydd.
Dewch â:  dillad sy’n dal dŵr, a haenau o ddillad cynnes. Bydd offer a menig ar gael.


Dydd Mawrth Gwaith cyntaf - Dydd Mawrth 4 o Fis Mai, 2010 byddwn yn ymuno â Warden Parc Cenedlaethol Eryri Bala, Bill Taylor, am daith gerdded i chasglu ysbwriel.

Byddwn yn casglu sbwriel ar hyd y daith i helpu cadw’r ardal yma mewn cyflwr da.
Cyfarfod: 10yb yn Swyddfa’r Warden yn y Bala. GR: SH 355 922. Mae’r swyddfa ar yr A494 wrth ochr y llyn, i gyfeiriad y de orllewin allan o dref y Bala.
Dewch â phecyn bwyd, te/coffi, dillad sy’n dal dŵr a haenau o ddillad cynnes.


Dydd Sadwrn 8 Mai 2009 - Gweithdy Gwneud Bagiau Defnydd – Penrhyndeudraeth yn ystod ffair Ecobro
Rydym wedi ein gwahodd yn ôl i gyflwyno arddangosiad gwneud bagiau wedi eu hailgylchu yn ystod gŵyl Trefi Trawsnewid ‘ecobro’ eleni. Felly dewch i’n gweld, neu ein helpu ac i ddangos i eraill pa mor hawdd ydi gwneud bagiau siopa wedi eu hailgylchu. Mae modd cyfnewid planhigion mewn stondinau eraill os oes gennych ddiddordeb.

Oes gennych chi ffair bentref / tref y dymunwch i ni ei fynychu y gwanwyn neu’r haf eleni? Os felly, cysylltwch â ni. Rydym yn fwy na pharod i ddod a gwneud gweithdai bywoliaeth gynaliadwy a gwneud bagiau. Mae angen eich cefnogaeth arnom er mwyn i’r agwedd newydd hon o’n gwaith ar gadwraeth fod yn un llwyddiannus.

Os oes gennych beiriant gwnïo neu hen ddefnyddiau fel llenni, dillad gwely a ffabrig creu clustogau nad ydych eu hangen cofiwch ddod â nhw draw.  Os ydych yn gallu gwnïo dewch draw i’n helpu os gwelwch yn dda.  Hoffem ledaenu’r gair ynglŷn â pha mor hawdd yw hi i newid hen bethau yn bethau wedi eu hailgylchu defnyddiol sy’n rhad, yn hawdd cael gafael arnyn nhw, ac sy’n garedig i’r amgylchedd.
 
Dewch draw i roi cynnig arni hi, dewch ag unrhyw un gyda chi a fyddai’n hoffi helpu, a beth am weld a allwn ni roi hyn ar waith.

Bydd mwy o wybodaeth yma cyn bo hir


Dydd Llun 10 Mai 2010–Ymweliad grŵp o’r Coleg Capel Manor clirio rhywogaethau goresgynnol megis Rhododendron Gwyllt yn Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant
Brwydro Rhododendron!

Byddwn yn taclo mwy peth o’r rhododendron yn ystod yr ymweliad hwn, nid oes rhai ar ôl o fewn waliau’r berllan ond mae digonedd mewn mannau eraill! Byddwn yn cynnau coelcerthi i gael gwared â’r sbwriel. Dewch draw yn enwedig os nad ydych wedi cael cyfle i ymweld â’r hostel - mae’n werth galw draw i gael golwg.
Cwrdd: 10:00 am ym maes parcio Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant, Nantgwynant,
Caernarfon, Gwynedd, LL55 4NP. SH644514. Ar yr A498 o Feddgelert, mae’r Hostel Ieuenctid ar y dde ac wedi’i arwyddo, cyn i chi gyrraedd y llyn ar y chwith, wrth fynd i fyny’r bwlch tuag at Westy Pen Y Gwryd.
Dewch â: phecyn bwyd a diod gynnes, dillad sy’n dal dŵr, haenau o ddillad cynnes.
Argymhellir esgidiau cryfion neu wellingtons; byddai esgidiau â blaenau dur yn syniad da ar gyfer y rhai sydd yn bwriadu symud cerrig.

Dydd Mawrth, 11 Mai 2010 – Cynnal a Chadw Llwybr Cerdded Maes Cwm, uwchben Llanberis, ar gylchdaith Foel Eilio.
Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gofyn i ni wneud gwaith cynnal a chadw ar ffosydd y llwybr poblogaidd yma, felly mae hwn yn un o lawer o ddyddiau gweithio dros y misoedd nesaf. I ddechrau rydym yn gwesteia Coleg Swindon gyda nifer o fyfyrwyr yn mynychu fel rhan o’u huned Effaith a Chynaladwyedd, felly dewch i’w cynorthwyo. Bydd rhaid i chi ddisgwyl bod yn ychydig yn wlyb a budur, oherwydd mi fyddwn ni’n clirio ffosydd ac yn ail-gloddio hen ffosydd.
Cyfarfod: 10y.b SH57359. Wrth i chi gyrraedd Stryd Fawr Llanberis edrychwch am siop newydd Joe Brown sydd ar yr un ochr a’r hen siop (ar y dde) ond ewch i fyny’r ffordd tuag at yr orsaf dren, (mae Pete’s eats tu ôl i chi). Trowch i’r dde cyn siop newydd Joe Brown a pharhau ar y ffordd gul am oddeutu 2 filltir, byddwch yn pasio buarth fferm, mae’r ffordd yma’n dod i ben ar y llwybr rydym yn gweithio arno, ac mae lle bychan i barcio ar ochr y ffordd. Ar fap OS rydych yn anelu am y ‘twmpath wedi llosgi’, ffoniwch Bea os oes gennych unrhyw broblemau.
Dewch â: Welingtons neu fŵts gyda dur ar eu blaen, mae cael dillad dal dŵr ychwanegol yn syniad da. Cofiwch eich pecyn bwyd a diod gynnes. Bydd menyg ac arfau’n cael eu darparu.



Sadwrn 15 Mai – Sul 16 Mai – Arwerthiant blanhigion rydym angen cymorth gwirfoddolwyr!

Hefyd byddwn yn cynnal yr Arwerthiant Blanhigion flynyddol dros ddau ddiwrnod eleni, gyda gweithgareddau estynedig.  Mae arnom angen cymorth ar y ddau ddiwrnod, i ddelio ag aelodau o’r cyhoedd, lluniaeth a chynnal gweithgareddau.  Mae arnom angen cymorth hefyd gyda’r trefniadau yn yr wythnosau cyn y digwyddiad.  Unwaith eto, cysylltwch â’r swyddfa os oes modd i chi helpu.


Fel rhan o’r Wythnos Gynaliadwyedd Cymru newydd sy’n dechrau ar ddydd Llun, Mai 17eg, byddem yn uno gyda Wardeniaid Parc Cenedlaethol Eryri i glirio’r sbwriel sydd ar Y Wyddfa. Mae’n ymddangos bod ymwelwyr ar gopa’r Wyddfa yn credu mai biniau sbwriel ydi’r bagiau cerrig sydd wedi eu gosod ar hyd y llwybrau. Mae’r bagiau yno er mwyn hwyluso gwaith y wardeniaid wrth gynnal a chadw’r llwybrau. O ganlyniad mae sbwriel yn cynyddu a chyda’r gwyntoedd cryfion mae’r sbwriel yn chwythu ar hyd a lled y mynydd godidog.

 

NEWYDDION AM 18 o Fai 2010

DDIM WEITHDY***CANCELLED****** DUE TO UNFORSEEN CIRCUMSTANCES THIS WORKDAY IS NOW CANCELLED***

DEEPEST APOLOGIES... MAE'N DDRWG GEN I...

DDim Ddyd Waith..

Yn cerdded Y Wyddfa er mwyn casglu’r sbwriel. ar ddydd Mawrth, Mai 18fed 2010
Dewch yn llu i’n helpu ar ddydd Mawrth, Mai 18fed pan fyddem, gyda chefnogaeth y wardeniaid a’u cerbydau, yn cerdded Y Wyddfa er mwyn casglu’r sbwriel. Wrth reswm mae’r diwrnod hwn yn golygu taith go faith, ac felly mae angen bod yn ffit a bydd rhaid cario bagiau sbwriel yn ystod y daith.
Cwrdd: Byddem yn cyfarfod ar 10:00 am
Dewch â: phecyn bwyd a diod gynnes, dillad sy’n dal dŵr, a haenau o ddillad cynnes. Bydd offer a menig ar gael.

Bydd mwy o wybodaeth yma cyn bo hir


Dydd Llun 24 o Fis Mai 2010 - Diwrnod gwaith adnabod adar gyda’r BTO yng Nghoetir Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant

Mae Geoff Gibbs o Ymddiriedolaeth Adara Prydain, The British Trust for Ornithology, sy’n hyrwyddo cadwraeth adar drwy gyfrwng arolygon gan wirfoddolwyr, wedi cynnig yn garedig iawn i ddod draw i Tŷ Hyll i’n hyfforddi mewn technegau adnabod adar.  Mae’r BTO yn chwilio am gymorth ar gasglu data ar gyfer eu Hatlas Adar 2007 – 2011.  Bydd y cyfle hwn am hyfforddiant yn galluogi Cymdeithas Eryri i gynnig cymorth ac ymestyn ystod ein rhaglenni gwirfoddoli a chadwraeth
Cwrdd: 10:00 am ym maes parcio Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant, Nantgwynant,
Caernarfon, Gwynedd, LL55 4NP. SH644514. Ar yr A498 o Feddgelert, mae’r Hostel Ieuenctid ar y dde ac wedi’i arwyddo, cyn i chi gyrraedd y llyn ar y chwith, wrth fynd i fyny’r bwlch tuag at Westy Pen Y Gwryd.
Dewch â: phecyn bwyd a diod gynnes, dillad sy’n dal dŵr, a haenau o ddillad cynnes. Bydd offer a menig ar gael. Byddai ysbienddrych, camera, mapiau, papur a phensel hefyd yn ddefnyddiol.

Rydym angen cymorth gwirfoddolwyr!
Rydym hefyd yn chwilio am wirfoddolwr sy’n byw yng nghyffiniau Brithdir i ymgymryd â gwaith dros yr haf o arolygu a chynnal a chadw cloddiau sydd wedi eu plannu. Bydd angen i’r gwirfoddolwr ymweld â phum darn o glawdd a gafodd eu plannu dros y gaeaf gan y perchnogion. Mae’n rhaid sicrhau nad oes chwyn yn tyfu o’u hamgylch, felly bydd angen chwynnu bob hyn a hyn - ym Mehefin ac yna mewn rhyw fis neu ddau. Cysylltwch â Bea am fapiau a mwy o wybodaeth.

Cadarnhewch os gwelwch yn dda:

Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cadarnhau os fyddwch yn mynychu unrhyw un o’r digwyddiad uchod, drwy gysylltu â’r swyddfa ar y rhif canlynol  01690 720287 neu drwy e-bostio (volunteer@snowdonia-society.org.uk ).
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Bea yn y Tŷ Hyll ar 01690 720287, neu drwy e-bostio (gwirfoddoli@cymdeithas-eryri.org.uk).

Prosiect Cadwraeth Eryri

Mis Mawrth ac Mis Ebrill 2010 Gweithdai gwirfoddolwyr :

Diwrnod gwaith dydd Mawrth cyntaf...

Oherwydd penwythnos y Pasg, pan fyddwn yn gwesteia Coleg Swindon am 3 diwrnod o waith gwirfoddol, felly ni fydd diwrnod gwaith dydd Mawrth cyntaf yn Ebrill – Dewch i helpu ar y dydd Mercher, Mawrth 31ain a dydd Iau Ebrill 1af, yn Hafod Garagog, yn clirio cynefin pili pala, ac /neu ddydd Gwener Ebrill 2il (Dydd Gwener y Groglith), byddwn yn clirio ffosydd ar lwybr ceffyl yn Llanberis, a mwynhau’r olygfa wrth y chwarel ac ysbyty’r chwarel.


Dydd Mercher  yr 31 o Fawrth ac Dydd Iau yr 1af o Ebrill 2010 – Cynnal a Chadw Cynefin Glöynnod Byw / Clirio Prysgwydd – Hafod Garegog, Beddgelert 

Yn dilyn ein hymweliad llwyddiannus â safle tir gwlyb Hafod Garegog yn ôl ym mis Hydref, rydym wedi ein gwahodd yno eto. Byddwn yn cynorthwyo Doug Oliver o'r Cyngor Cefn Gwlad Gymru i roi trefn ar dyfiant niweidiol y prysgwydd yno. Mae'r safle'n cael ei reoli er lles glöynnod byw, ac yn benodol y Glesyn Serennog. Mae Doug wedi rheoli'r safle ers rhai blynyddoedd er bod y lle'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Doug yn garedig iawn wedi cytuno i roi sgwrs i ni ar ddechrau'r diwrnod ymghylch pwysigrwydd y safle ar gyfer cadwraeth glöynnod.

Cyfarfod: 10yb Maes Parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor, ger yr A4085, ychydig cyn y gyffordd â'r A498, i'r de o Feddgelert. (Cyf. Grid SH597462).  Byddwch yn brydlon oherwydd bod yna ryw ychydig o le i barcio'n nes at y safle ei hun ac mi fyddwn ni'n trefnu rhannu ceir i fynd yno. Os digwydd i chi'n methu ni, dewch o'r maes parcio i'r ffordd fawr, ewch i'r chwith ac mae'r safle ei hun ryw filltir i lawr y ffordd ar yr ochr dde (cadwch lygad ar agor am wasgodau oren!).  

Cofiwch: Esgidiau dal dŵr - mae'r tir yn gorsiog. Hefyd - mae dillad dal dŵr yn syniad da o gofio'r math o dywydd sydd wedi bod. Cofiwch hefyd ddod â phecyn bwyd a phaned boeth at amser cinio. Mi fydd yna fenyg ac arfau yno ar eich cyfer - trin perthi fyddwn ni'r rhan fwyaf ac felly bydd gefeiliau tocio'n ddigon da.  

Dydd Gwener, Ebrill 2il 2010 – Cynnal a Chadw Llwybr Cerdded Maes Cwm, uwchben Llanberis, ar gylchdaith Foel Eilio.
Mae’r Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gofyn i ni wneud gwaith cynnal a chadw ar ffosydd y llwybr poblogaidd yma, felly mae hwn yn un o lawer o ddyddiau gweithio dros y misoedd nesaf. I ddechrau rydym yn gwesteia Coleg Swindon gyda nifer o fyfyrwyr yn mynychu fel rhan o’u huned Effaith a Chynaladwyedd, felly dewch i’w cynorthwyo. Bydd rhaid i chi ddisgwyl bod yn ychydig yn wlyb a budur, oherwydd mi fyddwn ni’n clirio ffosydd ac yn ail-gloddio hen ffosydd.
Cyfarfod: 10y.b SH57359. Wrth i chi gyrraedd Stryd Fawr Llanberis edrychwch am siop newydd Joe Brown sydd ar yr un ochr a’r hen siop (ar y dde) ond ewch i fyny’r ffordd tuag at yr orsaf dren, (mae Pete’s eats tu ôl i chi). Trowch i’r dde cyn siop newydd Joe Brown a pharhau ar y ffordd gul am oddeutu 2 filltir, byddwch yn pasio buarth fferm, mae’r ffordd yma’n dod i ben ar y llwybr rydym yn gweithio arno, ac mae lle bychan i barcio ar ochr y ffordd. Ar fap OS rydych yn anelu am y ‘twmpath wedi llosgi’, ffoniwch Bea os oes gennych unrhyw broblemau.
Dewch â: Welingtons neu fŵts gyda dur ar eu blaen, mae cael dillad dal dŵr ychwanegol yn syniad da. Cofiwch eich pecyn bwyd a diod gynnes. Bydd menyg ac arfau’n cael eu darparu.

Gwaithdy Plas Tan y Bwlch – Mae cymorth gwirfoddol Cymdeithas Eryri bob amser yn cael croeso yn y diwrnod garddio hwn. Byddwch yn cynorthwyo tîm garddio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch, i gynnal gerddi a’r tir oddi cwmpas.

Dydd Sadwrn y 27ain o Fawrth 2010

Dydd Sadwrn y 24ain o Ebrill 2010
Mae tîm garddio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch yn dechrau ar raglen o ddigwyddiadau cynnal a chadw yng ngerddi a thiroedd y Plas. Rydym ni, fel Cymdeithas Eryri, yn bwriadu mynd draw i'r digwyddiad yma i ddangos ein cefnogaeth drwy gynorthwyo.  Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30yb ac yn para tan 3.30 y prynhawn. Bydd yna ginio am ddim, rhywbeth yn debyg i gawl a brechdanau, i bawb sy'n gwirfoddoli i weithio yno, ond mae croeso i chi ddod â'ch pecyn bwyd eich hun. 
Cyfarfod: 9:30 y bore ym mhrif faes parcio Awdurdod y Parc ar ymyl ffordd y Plas. SH655408, ger yr A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog. Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, LL41 3YU Ffôn: 01766 772600
A fyddai pawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer y diwrnod mor garedig â dod yno erbyn 9.30yb. Bydd yna gyflwyniad byr ar y Plas a'r gwaith yr ydym yn ei wneud yno, ac yna amlinelliad byr o raglen y dydd.
Dewch â:  dillad sy’n dal dŵr, a haenau o ddillad cynnes. Bydd offer a menig ar gael.

Rhag-Rybudd i Mai 2010 Ar ‘ddydd Mawrth diwrnod cyntaf gwaith’ byddwn yn casglu ‘sbwriel yn Bala gyda warden Bill Taylor, dyddiad hyn yw Mai 4ydd 2010. Bydd Coleg Capel Manor yn mynychu am y drydedd flwyddyn, a byddwn yn curo Rhododendron ym Mryn Gwynant ddydd Llun Mai 10fed, a chlirio ffosydd ar y llwybr cerdded yn Llanberis (gwelwch uchod) dydd Mawrth Mai 11eg, cofiwch roi’r dyddiadau hyn eich dyddiadur.’

Cadarnhewch os gwelwch yn dda:
Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cadarnhau os fyddwch yn mynychu unrhyw un o’r digwyddiad uchod, drwy gysylltu â’r swyddfa ar y rhif canlynol  01690 720287 neu drwy e-bostio (volunteer@snowdonia-society.org.uk ).

Prosiect Cadwraeth Eryri

Diwrnodau gwaith gwirfoddolwyr Ionawr 2010 (manylion 19/12/09)

Aeth pethau'n dda yn nigwyddiad cymdeithasol y gwirfoddolwyr ar y 30ain o Dachwedd. Daeth yna dri ar ddeg o'r criw yno ac fe gawsom ni dro hyfryd ar hyd y llwybr sefydlog drwy'r coed, sydd bellach wedi ei glirio. Roedd posib gweld llawer iawn o'r harddwch sydd i'w gael yma ond roedd hi'n amlwg, ar yr un pryd, bod yna lawer iawn i'w wneud o hyd ac fe gafwyd nifer o awgrymiadau ynglŷn â'r hyn a fyddai'n bosib ei wneud efo'r ardd walog ac o ran adfywio'r berllan.

Dyddiau cynnal a chadw gerddi a thiroedd Plas Tan y Bwlch:

Dydd Sadwrn y 30ain o Ionawr 2010 - Mae tîm garddio Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhlas Tan y Bwlch yn dechrau ar raglen o ddigwyddiadau cynnal a chadw yng ngerddi a thiroedd y Plas. Rydym ni, fel Cymdeithas Eryri, yn bwriadu mynd draw i'r digwyddiad cyntaf yma i ddangos ein cefnogaeth drwy gynorthwyo. Y dasg ar gyfer y diwrnod cyntaf yma fydd clirio mieri. 

Bydd y diwrnod yn dechrau am 9.30yb ac yn para tan 3.30 y prynhawn.

Cyfarfod: 9:30 y bore ym mhrif faes parcio Awdurdod y Parc ar ymyl ffordd y Plas. SH655408, ger yr A487 rhwng Penrhyndeudraeth a Maentwrog. Plas Tan y Bwlch, Maentwrog, Blaenau Ffestiniog, LL41 3YU Ffôn: 01766 772600

A fyddai pawb sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer y diwrnod mor garedig â dod yno erbyn 9.30yb. Bydd yna gyflwyniad byr ar y Plas a'r gwaith yr ydym yn ei wneud yno, ac yna amlinelliad byr o raglen y dydd. Mi fyddwn ni'n gorffen tua 3.30 y prynhawn.   

Dewch â: Phecyn bwyd, te neu goffi, dillad glaw a dillad cynnes. Rydyn ni’n argymell ichi wisgo un ai esgidiau cerdded cryf neu esgidiau glaw. (yn enwedig rhai â thrwynau dur). Fe gaiff offer a menig eu darparu.

Bydd yna ginio am ddim, rhywbeth yn debyg i gawl a brechdanau, i bawb sy'n gwirfoddoli i weithio yno, ond mae croeso i chi ddod â'ch pecyn bwyd eich hun.

Bydd Margaret Thomas yn arwein y digwyddiad.

Dydd Mawrth Gwaith cyntaf mis Chwefror 2010


Dydd Mawrth yr 2ail o Chwefror 2010 – Cynnal a Chadw Cynefin Glöynnod Byw / Clirio Prysgwydd – Hafod Garegog, Beddgelert 

Yn dilyn ein hymweliad llwyddiannus â safle tir gwlyb Hafod Garegog yn ôl ym mis Hydref, rydym wedi ein gwahodd yno eto. Byddwn yn cynorthwyo Doug Oliver o'r Cyngor Cefn Gwlad i roi trefn ar dyfiant niweidiol y prysgwydd yno. Mae'r safle'n cael ei reoli er lles glöynnod byw, ac yn benodol y Glesyn Serennog. Mae Doug wedi rheoli'r safle ers rhai blynyddoedd er bod y lle'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae Doug yn garedig iawn wedi cytuno i roi sgwrs i ni ar ddechrau'r diwrnod ymghylch pwysigrwydd y safle ar gyfer cadwraeth glöynnod.

Cyfarfod: 10yb Maes Parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor, ger yr A4085, ychydig cyn y gyffordd â'r A498, i'r de o Feddgelert. (Cyf. Grid SH597462). 

Byddwch yn brydlon oherwydd bod yna ryw ychydig o le i barcio'n nes at y safle ei hun ac mi fyddwn ni'n trefnu rhannu ceir i fynd yno. Os digwydd i chi'n methu ni, dewch o'r maes parcio i'r ffordd fawr, ewch i'r chwith ac mae'r safle ei hun ryw filltir i lawr y ffordd ar yr ochr dde (cadwch lygad ar agor am wasgodau oren!).  

Cofiwch: Esgidiau dal dŵr - mae'r tir yn gorsiog. Hefyd - mae dillad dal dŵr yn syniad da o gofio'r math o dywydd sydd wedi bod. Cofiwch hefyd ddod â phecyn bwyd a phaned boeth at amser cinio. Mi fydd yna fenyg ac arfau yno ar eich cyfer - trin perthi fyddwn ni'r rhan fwyaf ac felly bydd gefeiliau tocio'n ddigon da.

 

Bydd yna ddiwrnodau gwaith pellach ym Mhlas Tan y Bwlch, os oes diddordeb gennych chi. Y trefniadau, o ran lle, amser cyfarfod, bwyd ac ati, fel yr uchod.

Dydd Sadwrn y 27ain o Chwefror 2010 -  Tocio coed perllan gymunedol Plas Tan y Bwlch.

manylion (19/11/09)

Dydd Mawrth 15 Mis Rhagfyr 2009 - Glanhau tiroedd Eglwys y Santes Julitta, Capel Curig

Diwrnod gwaith olaf y flwyddyn
Cynhelir ein diwrnod gwaith olaf cyn y Nadolig, a’r olaf yn 2009,  yn Eglwys Santes Julitta. Byddwn yn clirio’r lleoliad yn flynyddol yn barod ar gyfer gwasanaeth carolau’r Nadolig gyda Golau Cannwyll a fydd ar ddydd Mawrth 15fed o Ragfyr 2009.

Byddwn yn clirio’r tyfiant sydd o amgylch y beddi, yn torri drain ac yn ymgymryd â gwaith cynnal a chadw cyffredinol i sicrhau fod yr eglwys hardd hon yn edrych ar ei gorau erbyn yn barod ar gyfer  gwasanaeth carolau’r Nadolig gyda Golau Cannwyll ac ar gyfer ei hymwelwyr niferus.

Cyfarfod: 10 y bore ym mhrif faes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y tu ôl i siop a chaffi’r Pinnacles  yng Nghapel Curig ar yr A5, Cyfeirnod Grid SH721582.  

Dewch â: Phecyn bwyd, te neu goffi, dillad glaw a dillad cynnes. Rydyn ni’n argymell ichi wisgo un ai esgidiau cerdded cryf neu esgidiau glaw. (yn enwedig rhai â thrwynau dur). Fe gaiff offer a menig eu darparu.

Diwrnodau gwaith newydd i wirfoddolwyr ym mis Ionawr 2010:

Dydd Mawrth, Y deuddegfed o Ionawr 2010 arddio Plas Tan Y Bwlch
Dydd Sadwrn, Y degfed ar hugain o Ionawr 2010 arddio Plas Tan Y Bwlch

Diwrnodau gwaith newydd i wirfoddolwyr ym mis Tachwedd 2009:

Rydym yn helpu Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gyda’u prosiect cofnodi Atlas Mamolion, a gan fod y prosiect yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr rydym wedi gyrru pethau ‘mlaen yn arw er mwyn cwblhau ein sgwariau dynodedig. Gan fod y glaw wedi difetha ein cynlluniau ar ddiwrnodau gwaith  yn y gorffennol, rydym wedi penderfynu treulio’r dyddiadau ym mis Tachwedd ar gofnodi’r gweithgareddau yma. Rydym yn annog unrhyw un sydd â phrofiad o wneud arolwg  i’n helpu fel ein bod yn gallu rhannu i mewn i grwpiau er mwyn gorffen y gwaith. Os ydych yn y cyfamser yn hapus i weithio ar sgwâr ar eich pen eich hun , rhowch wybod i mi.

Dydd Mawrth 3ydd o Dachwedd 2009 bydd diwrnod Arolwg Mamaliaid yn ein sgwariau dynodedig yng Nghapel Curig.

Byddwn yn cwrdd ym maes parcio’r eglwys gan rannu i fyny o’r lleoliad hwnnw.

Dewch draw i ddysgu sut i ddarganfod olion mamaliaid a byddai binocwlars, fflashlamp a mapiau o gymorth os oes gennych chi rai.

Cyfarfod: 10yb: Maes parcio Eglwys y Santes Fair SH794564, mae yna faes parcio am ddim yn y sgwâr, ond mae’r maes parcio ei hun yn un talu ac arddangos. Byddwn yn cyfarfod yma wrth yr eglwys yng nghanol Betws  y Coed  gan mai dyma fyddai fwyaf hwylus. Mae’r eglwys ar y chwith i gyfeiriad Capel Curig, wedi i chi basio’r swyddfa bost.

Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig

Dydd Mawrth 24ain o Dachwedd bydd diwrnod Arolwg Mamaliaid yn ein sgwariau dynodedig yng Nghapel Curig

Diwrnod pellach ar gofnodi Mamolion, y tro yma yn ymdrin â’r sgwariau dynodedig yn rhan ogleddol y sgwâr uwchben  Tŷ Hyll. Pawb i gwrdd ym maes parcio’r Tŷ Hyll, yna gallwn oll wasgaru i weddill y sgwariau o fan hynny ymlaen.

Cwrdd: 10am yn Tŷ Hyll. Ewch allan o Fetws y Coed ar yr A5; tuag at Gapel Curig, i gartref Cymdeithas Eryri, Tŷ Hyll. (Cod post – LL24 0DS, cyfeirnod grid SH756576).

Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig

Dydd Llun 30 o Dachwedd 2009 Cyfarfod Cymdeithasol y Gwirfoddolwyr


Byddwn yn cynnal cyfarfod cymdeithasol y gwirfoddolwyr eleni yn Hostel Ieuenctid  Bryn Gwynant, ac ein nod yw cynnal taith gerdded o amgylch yr hostel i ddangos gwaith caled llawer o’r gwirfoddolwyr sydd wedi gweithio ar y safle yma yn rheolaidd dros y ddwy flynedd. Pryd o fwyd i ddilyn un ai ym Mryn Gwynant neu yn un o’r cyfleusterau lleol. Byddaf yn gyrru gwybodaeth cyn gynted bydd y cyfan wedi ei gadarnhau ond byddwn yn gwerthfawrogi gwybod y niferoedd sy’n dymuno mynychu cyn gynted ag bo modd er mwyn hwyluso’r trefniadau.

Ar gais y garddwyr, cynhelir y cyfarfod cymdeithasol yma yn lle'r diwrnod gwaith ar y dydd  Mawrth cyntaf ym mis Rhagfyr. Y gobaith yw bydd cymaint o wirfoddolwyr ag sy’n bosib yn gallu mynychu. Dylai’r daith gerdded gychwyn am 2yp, gyda phryd o fwyd am 4yp.  

Diwrnod gwaith olaf y flwyddyn
Cynhelir ein diwrnod gwaith olaf cyn y Nadolig, a’r olaf yn 2009,  yn Eglwys Santes Julitta. Byddwn yn clirio’r lleoliad yn flynyddol yn barod ar gyfer  gwasanaeth carolau’r Nadolig gyda Golau Cannwyll a fydd ar ddydd Mawrth 15fed o Ragfyr 2009.

Gweithdai gwirfoddolwyr Hydref 2009

Mae newid i’r dyddiad canlynol:

Ar gyfer mis yma rydym wedi symud ein gweithdy ar y dydd Mawrth cyntaf fel ein  bod ni’n gallu cymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol o lanhau traeth Harlech. Mae’r digwyddiad yma wedi ei drefnu ar gyfer  dydd Iau 8fed o Hydref 2009 ac rwy’n mawr obeithio y gallwch chi gymryd rhan;  pan mae’r tywydd yn deg, dyma draeth anhygoel a lleoliad hyfryd i gasglu sbwriel, heb anghofio’r olygfa odidog wrth fwynhau picnic haeddiannol. 

Dydd Iau 8fed o Hydref 2009 Digwyddiad Blynyddol - Glanhau Traeth Harlech

Gwahoddir chi i ymuno â’r grŵp gweithiol yn ein digwyddiad glanhau blynyddol ar draeth Harlech. Byddwn yn gweithio gyda chefnogaeth gan wardeiniaid APCE, CCC a Chyngor Gwynedd i oresgyn y broblem o sbwriel a gaiff ei olchi gyda’r llanw ar draeth Harlech. 
 
Y gwaith:  Mae’r sbwriel yn amrywio o weddillion pysgota, plastig, teiars, i sbwriel mwy cyffredinol.

Cyfarfod: 10yb ym maes parcio Min Y Don, Ffordd Traeth Harlech, GR574316. O’r A496 cymerwch y troad i’r (gorllewin) ar hyd Ffordd y Traeth. Mae’r maes parcio ar ddiwedd y lôn yma. Dewch i ngweld i wedi i chi gyrraedd cyn talu am y parcio. 
 
Dewch â’r canlynol gyda chi:  Cinio, te/coffi, dillad gwaith, dillad dal dŵr. Dewch a’ch gefel help llaw os oes gennych chi un. Byddwn yn darparu menig, gefelau help llaw a bagiau bin.

Dydd Iau 15fed o Hydref 2009 Diwrnod Gwaith Cadwraethol. Prosiect Gwelliannau Cymunedol Dolwyddelan.

Gweithio gyda gwirfoddolwyr cymunedol lleol, byddwn yn tirlunio Maes parcio / lle i dynnu i mewn ar ochr y ffordd ym Mhont Arenig (ar yr A470 fymryn uwchben y pentref). Rydym wedi gweithio gyda’r gymuned ar y safle yma ar sawl achlysur, y tro diwethaf ym mis Gorffennaf 2008, felly dewch ynghyd  i weld sut mae pethau wedi datblygu. Ar yr achlysur hwn rydym yn gobeithio gwneud ryw fymryn o dirlunio a phlannu planhigion/llwyni brodorol neu rai sy’n addas o gwmpas ardal  i eistedd lawr.

Cyfarfod: 10yb. Maes Parcio / lle i dynnu fewn ar ochr y ffordd ym Mhont Arenig. (Ar yr A470 ryw fymryn uwchben y pentref). 
Dewch â’r canlynol gyda chi: Cinio, dillad dal dŵr, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cadarn am eich traed (rydym yn awgrymu fod blaen dur ar yr esgid ar gyfer gwaith llwybrau). Byddwn yn darparu menig ac offer. 

Ar ddydd Mawrth 27ain o Hydref a dydd Mercher  28ain o Hydref 2009 byddwn yn arwain grŵp arall o ieuenctid o Swydd Hertfordshire, sy’n ymweld ag Eryri er mwyn cwblhau'r cyfnod preswyl o’u Gwobr Dug Caeredin Aur . Dewch ynghyd i danio eu brwdfrydedd mewn Gwirfoddoli Cadwraethol, rydym angen cymaint o’n gwirfoddolwyr rheolaidd ag sy’n bosib i helpu.

Dydd Mawrth 27 Hydref 2009 - Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant  - Ymosod ar y Rhododendron!

Cynllun Gwaith : Byddwn yn mynd i’r afael a hyd yn oed mwy o  rododendron ar yr ymweliad yma, gyda choelcerth i losgi’r gweddillion os fydd y tywydd yn ddigon sych. Dewch ynghyd , yn enwedig os nad ydych wedi ymweld â’r Hostel Ieuenctid eto - mae’n werth ei weld! Rydym wedi gallu lleihau’r Rhododendron gyda’n hymweliadau dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Cwrdd: 10:00 yb ym maes parcio Hostel Ieuenctid Bryn Gwynant, Nant Gwynant, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4NP. SH644514. Ar yr A498 o Feddgelert, mae’r Hostel Ieuenctid ar y dde, ac mae arwydd yma, cyn i chi gyrraedd y llyn sydd ar y chwith wrth i chi yrru i fyny am Westy Pen Y Gwryd.
Dewch â’r canlynol gyda chi: Cinio a diod gynnes, dillad dal dŵr , haenau o ddillad cynnes.
Rydym yn argymell eich bod yn gwisgo esgidiau cadarn neu welingtons am eich traed, rydym yn awgrymu esgid gyda blaen dur arni ar gyfer yr unigolion hynny sy’n bwriadu symud cerrig.

Dydd Mercher 28 Hydref 2009 - Cynnal a Chadw Cynefin y Glöyn Byw / Clirio Tir Prysg - Hafod Garegog, Beddgelert

 Byddwn yn helpu  Doug Oliver o Gyngor Cefn Gwlad Cymru (CCC) ar ei ddiwrnod gwaith i reoli’r tyfiant prysg sy’n cael effaith niweidiol ar y safle corsiog yma ; caiff yr ardal yma ei reoli’n weithgar er lles y Glöyn Glesyn Serennog. Er bod y safle yma yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol mae Doug wedi bod yn rheoli’r safle ers nifer o flynyddoedd, efallai i chi gofio ein bod wedi ymweld â’r safle ym mis Hydref 2007 gyda Phrosiect  Rheoli Cynefin Coedydd Derw Meirionnydd. Mae Doug wedi cytuno siarad â ni ar gychwyn y diwrnod ynglŷn â phwysigrwydd y safle i Gadwraeth Glöynnod Byw. 
Cyfarfod: 10yb ym Maes Parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn Nantmor, wedi ei leoli oddi ar yr A4085, fymryn cyn y groesffordd gyda’r A498, i’r De o Feddgelert. (Cyf. Grid SH597462).
Cofiwch gyrraedd mewn da bryd gan mai ychydig o le sydd ar gael ger y safle gwaith ei hun sy’n golygu bydd angen i ni rannu ceir a gyrru at y safle cyn gynted ag bo modd gwneud hynny, os ydych yn ein methu yna dewch allan o’r maes parcio a throwch i’r chwith ac mae’r safle oddeutu milltir i lawr ar yr ochr dde i’r ffordd (cadwch olwg allan am festiau oren!)
Dewch â’r canlynol gyda chi:  Mae welingtons yn hanfodol oherwydd natur gorslyd y safle yma, a byddai dillad ychwanegol sy’n dal dŵr yn syniad da hefyd, yn enwedig os gawn ni dywydd fel y cafwyd yr haf yma. Peidiwch ag anghofio eich cinio a diod gynnes. Byddwn yn darparu menig ac offer, mae mwyafrif o’r gwaith ar gloddiau ar lefel isel felly bydd tocwyr gyda breichiau hir yn ddigonol. 

Cadarnhewch os gwelwch yn dda:
Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn cadarnhau os fyddwch yn mynychu unrhyw un o’r digwyddiad uchod, drwy gysylltu â’r swyddfa ar y rhif canlynol  01690 720287 neu drwy e-bostio Bea (volunteer@snowdonia-society.org.uk <mailto:volunteer@snowdonia-society.org.uk>).

Bydd gennym tri ddigwyddiad gwirfoddoli ym mis Medi 2009:

Ar ddydd Mawrth 1af  o Fedi 2009 bydd diwrnod Arolwg Mamaliaid yn ein sgwariau dynodedig yng Nghapel Curig. Mae hwn yn ddyddiad newydd am fod y digwyddiad yn Awst wedi ei ohirio oherwydd y glaw trwm. Felly dewch draw i ddysgu sut i ddarganfod olion mamaliaid a byddai binocwlars, fflashlamp a mapiau o gymorth os oes gennych chi rai.  Byddwn yn cwrdd ym maes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth gan rannu i fyny o’r lleoliad hwnnw.  

Cyfarfod: 10yb ym maes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth SH763576. Ar ôl mynd drwy Betws y Coed ewch ar yr A5 at Gapel Curig, mae’r maes parcio ar yr ochr chwith, cyn i chi groesi’r bont dros yr afon a chyrraedd Tŷ Hyll.
Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig

Dydd Iau Medi 10fed, 2009 byddwn yn ymuno â Warden Parc Cenedlaethol Eryri Bala, Bill Taylor, am daith gerdded i chwilio am ddyfrgwn a chasglu ysbwriel, a bydd Bill yn ein dysgu i chwilio am arwyddion i ni allu darganfod y mamal prydferth a chyfrwys hwn. Mae’r dyfrgi wedi bod yn ail-sefydlu ei hun yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, a gan fod Bill yn adnabod yr ardal yn dda gobeithiwn y byddwn yn gallu gweld un ar y diwrnod. Byddwn yn casglu sbwriel ar hyd y daith i helpu cadw’r ardal yma mewn cyflwr da.

Cyfarfod: 10yb yn Swyddfa’r Warden yn y Bala. GR: SH 355 922. Mae’r swyddfa ar yr A494 wrth ochr y llyn, i gyfeiriad y de orllewin allan o dref y Bala.
Dewch â phecyn bwyd, te/coffi, dillad sy’n dal dŵr a haenau o ddillad cynnes.
Byddai binocwlars, fflashlamp a mapiau o gymorth os oes gennych chi rai. 

Byddwn yn dychwelyd i Eglwys Santes Julitta ar ddydd Sadwrn 19 o Fedi 2009 a byddwn yn adeiladu biniau compost y tro hwn, tebyg i’r rhai coed sydd yn Nhŷ Hyll. Felly os ydych eisiau gwybod sut i wneud y biniau er mwyn gwneud rhai ar gyfer eich gardd yna dewch i helpu. Hefyd os oes gennych brofiad blaenorol byddem yn croesawu eich arbenigedd yn fawr.  Ar hyn o bryd mae Cyfeillion Santes Julitta a Chymdeithas Eryri yn gorfod llogi sgipiau i roi’r planhigion ynddynt ar ôl diwrnod o glirio, ac mae hynny’n broses ddrud. Felly byddai’r biniau yma yn helpu i gadw costau i lawr a hefyd yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. 

Cyfarfod: 10 y bore ym mhrif faes parcio Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri y tu ôl i siop a chaffi’r Pinnacles  yng Nghapel Curig ar yr A5, Cyfeirnod Grid SH721582. Dewch â: Phecyn bwyd, te neu goffi, dillad glaw a dillad cynnes. Rydyn ni’n argymell ichi wisgo un ai esgidiau cerdded cryf neu esgidiau glaw. (yn enwedig rhai â thrwynau dur). Fe gaiff offer a menig eu darparu.

Mae ein digwyddiad nesaf gwneud bag i’w gynnal yn Nant yr Odyn dydd Sadwrn Medi 26ain, 2009. Mae hwn yn ganolfan hyfforddi newydd yn Llanfihangel GM, ger Cerrigydrudion, a bydd yn rhan o’r digwyddiadau cychwynnol wedi i’r adeilad ei gwblhau, sydd wedi ei adeiladu gyda chynllun wedi seilio ar egwyddorau amgylcheddol. Bydd manylion llawn ar gael pan gaiff ei gadarnhau.

Ddigwyddiad gwirfoddoli ym mis Awst 2009.

Byddwn yn arddangos menter ‘O Hen Garpiau i Fyd Cyfoethocach am 1 y pnawn ar ddydd Llun, 3ydd o Awst 2009, ym Mhabell y Dysgwyr, Maes D, Eisteddfod y Bala. Ein nod yw creu bag anferth i’w arddangos, gyda’r gobaith o annog pobl i wneud addewid eu bod am ddefnyddio llai o fagiau a phecynnau plastig. Os hoffech weld Bea Kelsall, Swyddog Prosiect Cadwraeth Eryri, yn defnyddio ei Chymraeg am y tro cyntaf, wedi’r holl wersi, yn ei digwyddiad cyhoeddus cyntaf fel dysgwraig - dewch draw i’w chefnogi.

Bydd gennym ddau ddigwyddiad gwirfoddoli hefyd ym mis Awst 2009:

Ar ddydd Mawrth 4ydd o Awst 2009 bydd diwrnod Arolwg Mamaliaid yn ein sgwariau dynodedig yng Nghapel Curig.

Felly dewch draw i ddysgu sut i ddarganfod olion mamaliaid a byddai binocwlars, fflashlamp a mapiau o gymorth os oes gennych chi rai.  Byddwn yn cwrdd ym maes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth gan rannu i fyny o’r lleoliad hwnnw.  

Cyfarfod: 10yb ym maes parcio’r Comisiwn Coedwigaeth SH763576

Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig.

Dydd Iau  6ed o Awst 2009 – ail ymweld ag Eglwys Llangennenin

I dorri’r tyfiant sydd wedi ymledu ers ein hymweliad ym mis Mehefin. Os byddwn yn gorffen yn gynharach na’r disgwyl yna byddwn yn casglu ‘sbwriel yn yr ardal gyfagos. 

(Eleni, byddwn yn cyfarfod wrth yr eglwys hardd hon mewn man hyfryd ac anghysbell i glirio’r rhedyn o’r tir o gwmpas, gan gychwyn am 10 y bore wrth yr eglwys cyn parhau yn y ceunant y tu ôl iddi, gan gasglu rhywfaint o sbwriel hefyd tra byddwn yno).

Cyfarfod: 10yb. Cysylltwch â Bea am gyfarwyddiadau, gan ei fod yn eithaf anodd dod o hyd iddi

Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig.

Byddwn yn dychwelyd i Eglwys Santes Julitta Yn Fedi 2009 a byddwn yn adeiladu biniau compost y tro hwn, tebyg i’r rhai coed sydd yn Nhŷ Hyll. Felly os ydych eisiau gwybod sut i wneud y biniau er mwyn gwneud rhai ar gyfer eich gardd yna dewch i helpu. Hefyd os oes gennych brofiad blaenorol byddem yn croesawu eich arbenigedd yn fawr.  Ar hyn o bryd mae Cyfeillion Santes Julitta a Chymdeithas Eryri yn gorfod llogi sgipiau i roi’r planhigion ynddynt ar ôl diwrnod o glirio, ac mae hynny’n broses ddrud. Felly byddai’r biniau yma yn helpu i gadw costau i lawr a hefyd yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd. 

Noder fod y dyddiadau a hysbyswyd yn wreiddiol yn y calendr digwyddiadau ar gyfer  16/17Awst 2009 wedi newid a bellach mae’r dyddiadau’n gynharach yn y mis. Diolch i chi am fod yn amyneddgar.

Cyfleoedd gwirfoddoli ar gyfer misoedd yr haf, dewch i gymryd rhan a dysgu sgiliau newydd.

Hen Diwrnodiau cadwraeth ymarferol:

Prosiect Cadwraeth Eryri

Diwrnodau Gwaith o Fehefin 2009 - Diwrnodiau cadwraeth ymaferol

Mae gennym ddau ddiwrnod gwaith ychwanegol ar gyfer Mehefin 2009:

Dydd Iau 18 Mehefin 2009 - Hen Eglwys Llangelynnin – torri rhedyn

Eleni, byddwn yn cyfarfod wrth yr eglwys hardd hon mewn man hyfryd ac anghysbell i glirio’r rhedyn o’r tir o gwmpas, gan gychwyn am 10 y bore wrth yr eglwys cyn parhau yn y ceunant y tu ôl iddi, gan gasglu rhywfaint o sbwriel hefyd tra byddwn yno.  Cysylltwch â Bea am gyfarwyddiadau, gan ei fod yn eithaf anodd dod o hyd iddi.

Cyfarfod: 10yb. 

Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig.

Dydd Llun 29 Mehefin 2009 - Casglu Sbwriel ym Metws-y-coed

Mae Cyfeillion Betws-y-coed wedi ein gwahodd i ymuno â nhw i gasglu sbwriel o amgylch y pentref.  Byddant yn cyfarfod wrth westy Bryn Arfon, dros Bont y Pair, ac yn parcio yn y maes parcio wrth ymyl Scott Cunningham am 1 o’r gloch.  Y nod yw gorffen mewn tua 2-3 awr.  Byddwn yn darparu bagiau bin du, menig a chodwyr sbwriel.

Cyfarfod: 1yp. 

Dewch a: dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig.


Diwrnodau Gwaith Gorffennaf 2009 - Diwrnodiau cadwraeth ymaferol

Mae’n ymddangos y bydd Gorffennaf yn fis prysur i ni sy’n gweithio ar Brosiect Cadwraeth Eryri. Dewch i un o’r dyddiau rydyn ni wedi’u trefnu i glirio’r holl ffromlys a llysiau’r gingroen, neu beth am ddod draw i dacluso’r Bala ar gyfer yr eisteddfod. Cadwch lygad ar y wefan am yr wybodaeth ddiweddaraf.

Mwynhewch eich haf bawb . . .

Dydd Sul 5 Gorffennaf 2009 ac Dydd Mawrth  28 Gorffennaf 2009 - Clirio’r planhigyn jac y neidiwr, Fferm Bryn Tyrch, Capel Curig

Rydym wedi trefnu dau ddyddiad i geisio difa cymaint â phosibl o’r planhigion ymledol yma.

Byddwn yn clirio jac y neidiwr o gloddiau terfyn, cyrion caeau a glannau nentydd a ffosydd Fferm Bryn Tyrch, sy’n rhan o Stad Gwydir, er mwyn ceisio atal mwy o hadau’r planhigyn hynod o ymwthiol hwn nad yw’n frodorol rhag cael eu dosbarthu. Mae’r ffermwr wedi cyflawni cryn dipyn o waith dros yr wyth mlynedd diwethaf i atal yr ymlediad, ac er iddo fod yn llwyddiannus yn y caeau eu hunain, mae angen mwy o gymorth ar gyrion y caeau a glannau’r nentydd a’r ffosydd. Byddwn yn tynnu’r planhigion â llaw gan mai dyma’r cyfnod gorau i wneud hyn ac oherwydd mai dyma’r dull gorau i rwystro’r ymlediad a lleihau’r angen am reolaeth gemegol.

Cyfarfod: 10yb.  CG SH727578. Dilynwch yr A5 drwy Capel Curig i gyfeiriad Conwy. Ar ôl dod allan o Gapel Curig o amgylch nifer o droadau, fe ddewch i ddarn syth o’r ffordd, gyda Siop Clogwyn ar y llaw dde. Dilynwch y ffordd fach ar y dde o flaen Siop Clogwyn (ychydig ar ôl yr arosfa bws), ac ewch ymlaen nes dod at giât fferm fetel ar ochr dde’r fforch yn y ffordd. Ewch drwy’r giât hon, a pharcio ar y man glaswelltog ar y chwith. Byddwn yn cyfarfod yma.
Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion. Byddwn yn darparu offer a menig.

Dydd Mercher y 15fed o Orffennaf 2009- Diwrnod casglu sbwriel – tref y Bala


Byddwn yn helpu Islwyn Pritchard-Jones, Maer y Dref, i gasglu’r sbwriel yn y dref cyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Dyma waith dilynol gan ein bod wedi cychwyn ar y gwaith yma ym mis Mawrth 2009. Byddwn yn cyfarfod ym mhrif faes parcio’r Bala ac yn dilyn y clawdd mawr gan gasglu sbwriel, cyn dychwelyd i’r maes parcio ar lwybr cylchol.

Cyfarfod: 10yb yn y maes parcio (talu ac arddangos) yn Y Bala (map AO 50000 Rhif 125 Cyfeirnod Grid 929362). Saif hwn ar yr A494 ychydig ar ôl croesi’r bont cyn i chi fynd i mewn i’r dref, gyferbyn â chyffordd yr A4212. DS byddwn yn mynd a’n ceir i’r stad ddiwydiannol gerllaw felly ni fydd angen talu am barcio am y diwrnod.
Dewch a: Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes. Byddwn yn darparu offer a menig.

Dydd Mawrth 21 Gorffennaf 2009 ac Dydd Mercher 22 Gorffennaf 2009 - Clirio - Traeth Bennar

Byddwn yn gweithio gyda Gethin Corps, Warden Parc Cenedlaethol Eryri, ar y ddau ddiwrnod yma, ynghyd â thîm o’r Parc Cenedlaethol, i glirio ymlediad llysiau’r gingroen o ardal y traeth. Mae’r planhigion yn tyfu’n gyflym eleni felly mae’n bwysig eu bod yn cael eu clirio cyn gynted â phosib. Byddwn yn defnyddio offer arbennig i glirio’r planhigion yn effeithiol, a bydd y wardeiniaid yn cael gwared â hwy’n ddiogel yn dilyn y diwrnod gwaith i’w rhwystro rhag ymledu ymhellach. Cefais wybod bod llawer o blanhigion i’w clirio.
Cyfarfod: 10yb. Maes parcio APCE. Cyfeirnod Grid: (maes parcio) SH 573227.

Cyfarwyddiadau:  I draeth Bennar:
O ochr Harlech, dilynwch yr A496 drwy bentref Dyffryn Ardudwy, heibio’r arwydd 30 mya ac i mewn i’r parth 40 mya. Ar ôl 500m fe welwch Eglwys Llanddwywe ar y dde. Trowch i lawr heibio’r eglwys, lle mae’r arwydd am Draeth Bennar. Dilynwch y ffordd hon nes cyrraedd maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri.
 
O ochr Bermo, dilynwch yr A496 drwy Dalybont, o’r parth 30 mya ac i’r parth 40 mya, ac ar ôl 500m fe welwch Eglwys Llanddwywe ar y chwith. Trowch i lawr heibio’r eglwys, lle mae’r arwydd am Draeth Bennar. Dilynwch y ffordd hon nes cyrraedd maes parcio Parc Cenedlaethol Eryri.

**Mae’n bwysig gwisgo dillad llewys hir ar y diwrnod gwaith hwn, i leihau cymaint â phosibl faint o groen fydd yn dod i gyswllt â’r planhigion llysiau’r gingroen.

Dewch a:  Phecyn cinio, te/coffi, dillad glaw, haenau o ddillad cynnes, esgidiau cryfion (awgrymwn eich bod yn gwisgo esgidiau gyda blaenau dur ar gyfer gwaith llwybrau). Byddwn yn darparu offer yn ogystal â menig rwber.

 
Cynhelir dwy digwyddiad gwneud bagiau clwt y mis yma:
                                      
Ar ddydd Llun 13 Gorffennaf, gofynnwyd i ni ddarparu arddangosiad yn y Caban Bach, Blaenau Ffestiniog. Os ydych yn rhydd, felly, i ddod draw i helpu i gario’r peiriannau gwnïo, eu gosod yn eu lle a helpu yn ystod y diwrnod byddem yn ddiolchgar iawn.


Cynhelir ein diwrnod mawr i wneud bagiau clwt y mis yma yn y Glastir yn Llanrwst ar ddydd Sadwrn 25ain Gorffennaf.  Os na allwch chi ddod draw i unrhyw un o’r digwyddiadau eraill, dewch draw i helpu gyda hwn os gwelwch yn dda, oherwydd mae angen i ni greu argraff ar bobl ifanc lleol sydd, mae’n debyg, wedi ein gweld ar S4C ar y rhaglen ‘Gobyldigwyrdd’ ar 3ydd Gorffennaf.  Mae gennym ystafell fawr ac mae angen ei llenwi, felly os gallwch feddwl am unrhyw weithgareddau ychwanegol i’w cyflawni yn ystod y dydd, gadewch i ni wybod.

Mae angen i ni wneud cymaint o fagiau â phosib hefyd oherwydd roedd ein hymweliad â sêl blanhigion Cymdeithas Eryri yn hynod o lwyddiannus ac nid oedd gennym yr un bag ar ôl. Gofynnwyd i ni gynnal arddangosfa am awr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala (gweler ein diwrnod gwaith clirio uchod) ar 3ydd Awst eleni, ac mae angen cymaint o fagiau newydd â phosib arnom. Bydd hwn yn gyhoeddusrwydd da i’r Gymdeithas ac ni fydd angen i ni dalu am stondin, felly dewch draw i gynnig eich cymorth ar y diwrnod gwaith yn Llanrwst, ac ar ddyddiad y diwrnod yn yr Eisteddfod ym mis Awst. 

Cofiwch:  ‘Gobyldigwyrdd’ yn cael ei dangos ar S4C  ar y 3ydd o Orffennaf 2009 am 4:25yp, ac eto gydag isdeitlau ar y 6ed o Orffennaf 2009.  Cafodd y rhaglen ei ffilmio gyda Chymdeithas Eryri a’r plant a ddaeth i wneud bagiau gyda ni yn Harlech am ddau ddiwrnod ym mis Hydref 2008. 

Dewch draw i’n cynorthwyo gydag unrhyw un neu’r cyfan o’r digwyddiadau sy’n codi blys arnoch.

Bea Kelsall, Swyddog Prosiect Cadwraeth Eryri

Bydd mwy o wybodaeth yma cyn bo hir