![]() | |
|---|---|
|
|
|
|
Diweddarwyd y dudalen yma ar 05/12/2006©Cymdeithas Eryri 2008 Elusen Cof: 253231 |
|
|
Cyfleoedd i wirfoddoli gyda Cymdeithas Eryri
Gwaith ar lwybr yng Nghapel Curig. © Steve Lewis
Safle cyn ac ar ôl gwaith tacluso
Gwaith Caled Gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn ennill prif wobr.
Tydy Cymdeithas Eryri ddim yn bodloni gwrthwynebu datblygiadau sy'n fygythiadau i Eryri, ond mae'n benderfynol o weithredu a torchi llewys er lles y Parc Cenedlaethol - cyfle i chi gymryd rhan!
Yr ydym yn cynnal rhaglen gyson o dasgau cadwraethol drwy gydol y flwyddyn sy'n cynorthwyo i gadw prydferthwch naturiol Eryri. O dan arweiniad Cydlynydd Gwirfoddolwyr y Gymdeithas, mae grwpiau'n cyfarfod ar hyd a lled y Parc gan wneud amrywiaeth o weithgareddau.
Trefnir dyddiau gwaith yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau, sydd yn amrywio o hanner diwrnod yn unig at benwythnos cyfan o weithio. Gweithiwn mewn partneriaeth â sefydliadau eraill megis Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Asiantaeth yr Amgylchedd, Comisiwn Coedwigaeth, Cadwch Cymru'n Daclus a sawl un arall. Os ydych am fagu profiad neu gwneud gyrfa o reoli cefn gwlad, cewch y cyfle i gyfarfod a gweithio gydag arbenigwyr cefn gwlad.
Mae gwaith gwirfoddol yn amrywiol iawn, gall gynnwys cynnal a chadw a chreu llwybrau troed yr ucheldir, clirio rhywogaethau goresgynnol megis Rhododendron Gwyllt, Llysiau'r Cythraul a Jac y Neidiwr.
Fel rhan o'r 'Ymgyrch Glirio' rydym hefyd yn clirio llanast sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon a sbwriel, yn ogystal ag unrhyw beth arall sy'n hyllu'r Parc. Efallai eich bod eisiau gwneud rhywbeth creadigol yn lle hynny? Fe geir cyfleoedd i arddio bywyd gwyllt yn yr ardd sylweddol yn Ty Hyll, neu efallai bod gennych awydd plannu coed a chreu cynefinoedd?.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol arnoch oherwydd darperir hyfforddiant cyflawn, ac mae croeso i unrhyw un wirfoddoli. Mae llawer o'n gwirfoddolwyr yn aelodau o'r gymdeithas yn barod - fodd bynnag mae hyn yn ddewisol, ac nid yw'n amod angenrheidiol er mwyn gwirfoddoli. Gofynnwn i bawb sydd o dan ddeunaw oed ddod yng nghwmni oedolyn cyfrifol. Mae angen lefel cymedrol o ffitrwydd a gallu ar gyfer rhai o'n tasgau, ynghyd â'r mwynhad o fod allan yn yr awyr agored (ymhob tywydd!!).Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o hyn, a gwneud gwahaniaeth, cwblhewch y ffurflen sydd dros y dudalen neu ffoniwch ein Cydlynydd Gwirfoddolwyr ar (01690) 720287 neu e-bostiwch.
Gwybodaeth Gyffredinol: Bydd gwirfoddolwyr angen: Offer
Menig
Hyfforddiant
Yswiriant
Bocs cymorth cyntafDillad gwaith cynnes
Dillad sy'n dal dwr
Meddyginiaeth bersonol
Mae'n hanfodol cael esgidiau cryfionGellir talu costau teithio i/ ac o'r safleoedd gweithio ar raddfa o 25c y filltir hyd at uchafswm o £15.
Cwblheir asesiadau risg cyflawn cyn pob gweithgaredd, ac fe geir
cynorthwy-ydd cymorth cyntaf yn bresennol bob amser.
Mae rhaid i bob un sydd o dan ddeunaw oed fod yn nghwmni oedolyn cyfrifol. Ni chaniateir unrhyw un o dan ddeuddeg oed.